Mae disgwyl i Boris Johnson wynebu Aelodau Seneddol heddiw (Dydd Mercher, 19 Ionawr) ar gyfer Cwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin, yn dilyn pwysau arno i ymddiswyddo.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau y gallai 54 o lythyron gael eu derbyn a fyddai’n dechrau’r broses o bleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.

Yn ôl adroddiadau neithiwr (18 Ionawr) roedd ASau yn gandryll gyda’r modd yr oedd y Prif Weinidog wedi delio gyda’r sgandal am bartïon yn Rhif 10 yn ystod y cyfnod clo, ac ar ôl iddo fynnu nad oedd unrhyw un wedi dweud wrtho y byddai cynnal parti yn Downing Street yn mynd yn groes i’r rheolau yr oedd e ei hun wedi’u gosod.

Yn ôl adroddiadau mae nifer o ASau yn paratoi i gyflwyno llythyron i Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922 o aelodau meinciau cefn.

Her

Mae disgwyl i Boris Johnson geisio lleddfu’r gwrthwynebiad drwy gyhoeddi y bydd mesurau Cynllun B, i atal lledaeniad y coronafeirws, yn cael eu codi wythnos nesaf.

Ond yn ôl adroddiadau roedd ASau wedi cwrdd ddydd Mawrth (18 Ionawr) i drafod dyfodol Boris Johnson ac roedd un wedi dweud wrth The Daily Telegraph eu bod yn agos at gyrraedd y 15% o’r llythyron sydd eu hangen i ddechrau her i’w arweinyddiaeth.

Roedd Boris Johnson wedi ymddiheuro sawl gwaith mewn darllediad ddoe am y “camfarnau a wnaed” ond roedd yn mynnu ei fod yn credu bod y parti, gafodd ei gynnal yng ngardd Rhif 10 ar 20 Mai, 2020, wedi bod yn ddigwyddiad gwaith ac nad oedd wedi cael rhybudd amdano ymlaen llaw.

Gwrthddweud hynny mae Dominic Cummings, cyn-brif ymgynghorydd Boris Johnson.

Mae’r Prif Weinidog yn mynnu nad oedd wedi dweud celwydd wrth y Senedd am y partïon. Fe wrthododd ddweud a fyddai’n ymddiswyddo petai’n dod i’r amlwg ei fod wedi camarwain y Senedd yn fwriadol ac mae wedi galw ar bobl i fod yn amyneddgar nes bod ymchwiliad Sue Gray yn cael ei gwblhau.