Bydd her gyfreithiol yn cael ei lansio yn erbyn Llywodraeth Cymru dros ei pholisi pasys Covid gorfodol.

Mae’r grŵp ymgyrchu hawliau sifil Big Brother Watch yn ceisio adolygiad barnwrol o’r cynllun, gan ei ddisgrifio fel “didostur, gwahaniaethol a dibwrpas”.

Cyflwynwyd Pas Covid y GIG yng Nghymru ar 11 Hydref 2021 ac mae’n caniatáu i bobl brofi eu bod wedi cael eu brechu neu wedi cael prawf llif ochrol negyddol fel y gallant fynychu digwyddiadau neu leoliadau mawr.

Mae’n ofynnol i bobl sy’n mynychu sinemâu, neuaddau cyngerdd a theatrau, yn ogystal â chlybiau nos a rhai digwyddiadau mawr, gyflwyno pas Covid.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cael eu cyflwyno i “gadw busnesau ar agor tra hefyd yn helpu i reoli lledaeniad y feirws a diogelu’r GIG”.

Ond mae Big Brother Watch yn honni bod y cynllun yn creu ymyrraeth hawliau “sylweddol a phellgyrhaeddol”.

Mae hefyd wedi cychwyn her gyfreithiol yn erbyn y cynllun pasys Covid yn Lloegr, ac mae’n annog Llywodraeth y DU i gael gwared ar gynllun Lloegr erbyn diwedd mis Ionawr.

Dywedodd cyfarwyddwr y grŵp, Silkie Carlo: “Rydym yn cefnogi mesurau cymesur i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ond mae tystiolaeth eithriadol o wan yn cefnogi rôl pasys Covid.

“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu’r dogfennau a’r cyngor maen nhw’n dweud maen nhw’n dibynnu arnyn nhw i osod cynllun pasys Covid ar bobl yng Nghymru.

“Mae eu gwrthodiad i wneud hynny yn codi amheuon bod achos y Llywodraeth yn wan neu ddim yn bodoli.”

Diogelu’r GIG

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae pasys Covid wedi cael eu cyflwyno fel un mesur – ymhlith llawer – i helpu i gadw busnesau ar agor tra hefyd yn helpu i reoli lledaeniad y feirws a diogelu’r GIG.

“Mae’r lleoliadau lle mae angen pas Covid wedi’u dewis oherwydd eu bod dan do yn bennaf ac maent yn gweld nifer fawr o bobl yn ymgynnull yn agos gyda’i gilydd am gyfnodau hir.

“Fel y gwyddom, pan mae niferoedd mawr o bobl yn agos at ei gilydd, yn enwedig dan do, y mwyaf yw’r risg o drosglwyddo’r feirws.

“Rydym yn parhau i gefnogi busnesau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ofyn am basys Covid gydag ystod o gyngor ac arweiniad.”