Bydd y newid i’r drefn o sgrinio serfigol yn cael ei drafod yn y Senedd yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, 19 Ionawr).
O dan y drefn newydd, mae pobol rhwng 25 a 49 oed yn cael eu gwahodd am brawf sgrinio ceg y groth arferol bob pum mlynedd yn hytrach na thair o hyn ymlaen.
Mae’r newid wedi’i wneud yn unol ag argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig gan fod y prawf sgrinio sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn fwy effeithiol na’r un blaenorol.
Daeth i rym ar 1 Ionawr eleni, ac mae’n golygu y bydd llythyrau canlyniadau sydd wedi’u hanfon ar ôl y dyddiad hwnnw yn dweud mai mewn pum mlynedd fydd eu hapwyntiad nesaf, cyn belled bod yr amodau’n berthnasol iddyn nhw.
Mae’r newid yn berthnasol ar gyfer pawb dan 50 oed sydd ddim yn profi’n bositif am feirws papiloma dynol (HPV) yn ystod eu prawf sgrinio serfigol.
Mae HPV yn feirws cyffredin iawn, ac mae un neu fwy o fathau o HPV â risg uchel yn bresennol yn 99.8% o achosion o ganser serfigol.
Cafodd profion HPV eu cyflwyno yng Nghymru yn 2018, ac mae bron i 9 ymhob 10 canlyniad yn dangos nad oes gan y person HPV â risg uchel.
Mae tua 160 o bobol yn cael diagnosis o ganser ceg y groth yng Nghymru bob blwyddyn, a dyna’r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod o dan 35 oed.
Ymateb cryf
Bu ymateb cryf i’r cynlluniau, gyda dros 175,000 wedi arwyddo deiseb yn galw am gadw profion sgrinio bob tair blynedd yn hytrach na bob pum mlynedd, o fewn llai na 24 awr.
Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ymddiheuro am achosi pryder drwy fethu ag egluro’n ddigonol y newidiadau i sgrinio ceg y groth.
Eglurodd fod y newid ar gyfer menywod rhwng 25 a 49 oed, lle nad yw HPV i’w weld yn eu prawf sgrinio serfigol (smear).
“Mae’n ddrwg gennym nad ydym wedi gwneud digon i esbonio’r newidiadau i sgrinio ceg y groth ac wedi achosi pryder,” meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru ar eu cyfrif Twitter.
“Rydym yn gweithio i wneud hyn yn gliriach a bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn gynted ag y gallwn heddiw ac yn y dyddiau nesaf.”
Dywedodd Buffy Williams, yr Aelod Llafur dros y Rhondda, wrth y pwyllgor deisebau fod ganddi ddwy ferch ac “mae meddwl bod y prawf yn digwydd bob pum mlynedd yn hytrach na thair yn peri pryder”.
“Dw i wir yn meddwl bod angen i’r ddeiseb ddod ymlaen ar gyfer ei thrafod oherwydd mae hi mor bwysig bod gan bob menyw a arwyddodd y ddeiseb lais,” meddai.
“Pan mae’r llythyr yn cyrraedd fy nrws, dw i’n ei agor a’i roi ar yr oergell, a bob tro dw i’n edrych arno ac yn meddwl, ‘O dw i angen bwcio apwyntiad gyda fy meddyg teulu i gael fy mhrawf sgrinio’, ond mae hynny’n gallu mynd ymlaen am wythnosau.
“Oherwydd mae bywyd yn mynd o’r ffordd, a dyw e ddim yn brofiad braf, dyw e ddim. Ond mae’n brofiad sy’n achub bywydau.
“Ond yn fy meddwl i, fydd e ddim bob pum mlynedd, bydd hi’n chwe blynedd erbyn yr amser mae nifer o bobol yn mynd.
“Mae e hefyd yn amser pan rydych chi’n mynd am brawf llesiant cyffredinol, neu fe allai fod yr unig amser pan fo rhywun sy’n dioddef trais yn y cartref yn gweld arbenigwr iechyd.
“Mae e mor bwysig, a dw i’n teimlo’n gryf iawn dros hyn, ei fod yn cael ei wneud yn amlach.”