Mae graddfa chwyddiant y Deyrnas Unedig wedi codi i’w lefel uchaf ers bron i 30 mlynedd wrth i gostau byw gynyddu, yn ôl ffigurau swyddogol.
Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi cynyddu o 5.1% ym mis Tachwedd i 5.4% ym mis Rhagfyr – y lefel uchaf ers mis Mawrth 1992 pan oedd yn 7.1%.
Roedd economegwyr wedi disgwyl i chwyddiant godi i 5.2% ym mis Rhagfyr.
Yn ôl yr ONS, roedd chwyddiant wedi cynyddu yn sgil prisiau uwch am fwyd a diodydd di-alcohol fis diwethaf, gyda chostau hefyd yn cynyddu mewn bwytai a gwestai, ac am ddodrefn a nwyddau i’r cartref, yn ogystal â dillad ac esgidiau.
Mae’r esgid yn gwasgu ar aelwydydd wrth i brisiau nwy a thrydan godi’n sylweddol ac mae Banc Lloegr yn rhagweld y bydd chwyddiant yn codi i 6% ym mis Ebrill.
Roedd Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog fis diwethaf o 0.1% i 0.25% er mwyn ceisio lleddfu’r cynnydd yng ngraddfa chwyddiant, gyda disgwyl cynnydd arall mor fuan â mis nesaf.