Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mwy na £1m ar gyfer prosiectau er mwyn annog pobol i ddefnyddio’r Gymraeg yn ehangach.

Bydd cyfran helaeth o’r arian – £600,000 – yn cael ei roi i’r Eisteddfod Genedlaethol tuag at gynnal y digwyddiad yn 2022 yn Nhregaron.

Caiff cyllid hefyd ei ddarparu i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ar gyfer prosiectau megis creu cyrsiau blasu ar-lein i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, heb fod angen iddyn nhw fod yn rhugl yn Saesneg.

Bydd y Ganolfan, mewn partneriaeth â Say Something in Welsh, hefyd yn darparu cyrsiau yn yr ieithoedd sy’n cael eu siarad fwyaf gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

Bydd cyllid hefyd yn cael ei roi i ddarparu cymorth tiwtor ar gyfer cwrs hunanastudio lefel mynediad i athrawon.

Mae 2,700 o bobol wedi cofrestru ar gwrs blasu ar gyfer athrawon ers ei lansiad ym mis Chwefror 2020, yn ôl ffigurau.

Caiff cyllid hefyd ei ddarparu i Rhieni dros Addysg Gymraeg er mwyn datblygu gwybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg mewn ieithoedd lleiafrifol.

Y nod yw cefnogi teuluoedd y mae eu plant yn cael addysg cyfrwng Cymraeg, ond nad Cymraeg na Saesneg yw’r prif ieithoedd sy’n cael eu siarad gartref.

Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, yn dweud y bydd hefyd yn hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ymysg cymunedau ethnig lleiafrifol.

‘Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd’

“Diben y cyhoeddiad heddiw yw ei gwneud hi’n haws nag erioed defnyddio ein hiaith a’n diwylliant,” meddai Jeremy Miles.

“Rydyn ni yn buddsoddi mewn cyfleoedd i ragor o bobol ddysgu, defnyddio ac addysgu Cymraeg lle bynnag y maen nhw yng Nghymru a beth bynnag yw eu cefndir.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, p’un a ydym yn ei siarad neu beidio.

“Rydyn ni wrth ein boddau i weithio gyda’n partneriaid ar brosiectau mor amrywiol, sydd i gyd yn cefnogi ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’n hiaith erbyn 2050.”

“Torri tir newydd”

Mae grŵp Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud ei fod yn gyfle i “dorri tir newydd” wrth gyflwyno’r Gymraeg i gymunedau.

“Mae RhAG yn croesawu’r cyhoeddiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, ac yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y nawdd ychwanegol i roi’r prosiect pwysig hwn ar waith,” meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb sy’n dewis byw yng Nghymru, ac felly dyma gyfle cyffrous i dorri tir newydd o ran cyflwyno’r iaith i gymunedau newydd.

“Nod y prosiect fydd rhannu neges gadarnhaol am yr iaith fel pont i gysylltu diwylliannau a chreu’r teimlad o berthyn.

“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn fodd o ddeffro chwilfrydedd rhieni trwy bwysleisio bod dewis arall ar gael iddynt o ran addysg eu plant, a bod addysg Gymraeg yn agored ac ar gael i bawb.

“Rydym ar siwrnai gyffrous wrth i unigolion a chymunedau newydd gofleidio’r Gymraeg am y tro cyntaf, ac mae lledaenu’r neges fod addysg Gymraeg yn hygyrch i bob cymuned yn rhan annatod o’r daith honno.”