Mae mwyafrif yr aelodau a gafodd eu henwebu i gorff llywodraethu YesCymru wedi’u hethol yn awtomatig oherwydd diffyg ymgeiswyr.

O dan yr Erthyglau Cymdeithasiad newydd, a gafodd eu pasio yn y Cyfarfod Cyffredinol Brys gyda mwyafrif llethol, mae hyd at 17 o swyddi ar y Corff Llywodraethu Cenedlaethol.

Mae lle i hyd at dri chyfarwyddwr i gynrychioli pob un o’r pum rhanbarth yng Nghymru, a dau gyfarwyddwr i gynrychioli aelodau y tu allan i Gymru.

Roedd cyfanswm o 19 o enwebiadau.

Ond doedd dim mwy na thri ymgeisydd mewn pedwar o’r rhanbarthau, sy’n golygu eu bod yn cael eu hethol yn awtomatig. Mewn dau o’r rhanbarthau, dim ond dau aelod a gyflwynodd eu henwau.

Dim ond un rhanbarth, canolbarth a gorllewin Cymru, a welodd fwy na thri ymgeisydd yn sefyll, gyda saith yn gwneud hynny, ac felly byddan nhw’n sefyll mewn etholiad.

Bydd tri chyfarwyddwr yn cynrychioli pob un o’r pum rhanbarth, gyda dau ychwanegol o’r tu allan i Gymru.

Mae’r pleidleisio’n agor am 8yb ar Ionawr 28 ac yn cau ar 30 Ionawr, ac mae’n agored i bob aelod a gofrestrodd cyn Rhagfyr 22.

Yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, bydd Geraint Roberts, Owain Williams, Gaynor Jones, Jim Dunckley, John Rhys Davies, Geraint Thomas ac Ifor ap Dafydd yn cystadlu am bleidleisiau.