Mae disgwyl i dreth y cyngor yng Nghaerdydd, sydd eisoes wedi cynyddu bron i 50% dros y ddegawd ddiwethaf, godi eto ym mis Ebrill.
Bydd rhaid i unigolion sy’n talu’r dreth gyfrannu 4% yn fwy yn y flwyddyn ariannol nesaf, er gwaethaf effeithiau ariannol y pandemig ar y cyhoedd.
O’r flwyddyn 2011-12 hyd at eleni, cododd y gyfradd 47.36%, sy’n golygu bod aelwydydd yn talu cannoedd o bunnoedd yn fwy beth bynnag.
Fe wnaeth y Grŵp Llafur, sy’n arwain Cyngor Caerdydd, amddiffyn y cynnydd, gan ddweud eu bod nhw’n hanfodol i gadw gwasanaethau cyhoeddus mewn lle, wrth i gyni “lwgu Caerdydd rhag arian”.
Dywedon nhw hefyd bod cyfraddau’r ddinas yn parhau i fod yn is na’r cyfartaledd ar draws Cymru.
Newidiadau ledled Cymru
Roedd hynny er gwaethaf cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol – y setliad ariannol gorau gan y llywodraeth honno “ers dros ddegawd”, medd un cynghorydd Llafur yn Sir Gâr.
Fel rhan o’r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a’r llywodraeth, roedd addewid i wneud “treth y cyngor yn fwy teg”, a gallai hynny olygu y bydd y system drethi yn cael ei diwygio’n sylfaenol wedi’r etholiad nesaf yn 2026.
Mae’r llywodraeth wedi eu cyfyngu i gynnal ailwerthusiad o’r sefyllfa bresennol yn unig tan hynny, rhywbeth sydd heb ddigwydd ers 2003.
Degawd o gynnydd
Mae’r rheiny sydd yn Band A ac yn talu’r gyfradd leiaf, wedi gweld cynnydd o £342.97 dros gyfnod o ddegawd, tra bod y rheiny sy’n talu’r gyfradd isaf (Band I) wedi gweld cynnydd o £1,200.38.
Mae’n debyg nad yw cyflogau cyfartalog yng Nghaerdydd wedi gweld yr un cynnydd yn ystod yr un cyfnod, ac ond wedi codi 10%.
Fe wnaeth y Blaid Lafur yng Nghaerdydd addo cyn cael eu hethol i’r Cyngor yn 2012 i beidio â chynyddu treth y cyngor.
Chwe mis yn ddiweddarach, fe wnaethon nhw dorri’r addewid, ac mae’r gyfradd wedi cynyddu bob blwyddyn ers hynny, yn ôl StatsCymru.
Mae Adrian Robson, arweinydd y grŵp Ceidwadol, yn dweud bod y cynnydd yn “annheg” ac yn “uwch na chwyddiant”.
Dywed Rhys Taylor, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y Cyngor, fod y cynnydd parhaus wedi gadael pobol y ddinas “mewn gwasgfa”.
‘Chwerthinllyd’
Wrth ymateb i sylwadau’r ddwy blaid, dywed Huw Thomas, arweinydd y Cyngor, mai treth cyngor Caerdydd yw’r pedwerydd isaf yng Nghymru a’i fod yn rhatach na’r cyfartaledd yn Lloegr.
“Mae’n chwerthinllyd, yn ffuantus, ac yn dafodrydd i’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol gwyno am y dreth gyngor,” meddai.
“Eu pleidiau nhw — pan oedden nhw mewn grym yn San Steffan — a gyflwynodd gyni, a llwgu Caerdydd o’r arian roedden ni ei angen i gynnal gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
“Er bod codiadau yn nhreth y cyngor yn angenrheidiol i gadw’r gwasanaethau hyn yn eu lle, cafodd y penderfyniadau hyn ddim eu cymryd yn ysgafn ac mae’r cyngor wedi gorfod gwneud gwerth £250m o arbedion dros y degawd diwethaf er mwyn mantoli cyfrifon.
“Rydyn ni bob amser yn ymdrechu i roi gwerth da am arian i drigolion Caerdydd, a’r ffaith yw fod gan Gaerdydd y bedwaredd gyfradd dreth gyngor isaf yng Nghymru, ac un sydd rhai cannoedd o bunnoedd yn rhatach na’r cyfartaledd yn Lloegr.”
Gyda’r etholiadau lleol ar y gorwel ym mis Mai, gallai trethi fod yn un o’r pynciau llosg poethaf ymhlith pleidleiswyr.