Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ddod â sesiynau rhithiol i ben, gan ddychwelyd at fformat hybrid.
Fe ddaeth y penderfyniad i ymgynnull yn gwbl rithiol o Ragfyr 13 yn sgil pryderon am yr amrywiolyn Omicron.
Mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu’n gryf y dylid gweithio o adref, er nad yw’n rheidrwydd cyfreithiol.
Mae’n debyg y bydd y Senedd yn parhau i gwrdd yn rhithiol am o leiaf wythnos arall.
“Gan fod cyfyngiadau’n llacio ac mae pobol yn dechrau dysgu byw gyda’r coronafeirws, mae’n hanfodol bod aelodau etholedig yn cael y dewis i ddychwelyd i’r Senedd i gyflawni eu dyletswyddau mor effeithiol â phosibl,” meddai Darren Millar, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Clwyd.
“Mae’n iawn fod Gweinidogion yn y siambr wrth gyflwyno datganiadau pwysig, yn hytrach na thrwy Zoom, sy’n gallu codi pob math o broblemau.
“Mae’r fformat hybrid – fel a oedd ar waith y llynedd – yn caniatáu craffu mwy effeithiol ar weinidogion, nad ydynt yn gallu dibynnu ar swyddogion ac ymgynghorwyr sy’n darparu cymorth ac awgrymiadau oddi ar y sgrin, fel sy’n digwydd mewn rhith-bresenoldeb yn siambr y Senedd.
“Mae angen i ni i gyd barhau i fod yn wyliadwrus a chadw pobol yn ddiogel ond gall gweithio gartref fod yn her i rai oherwydd materion fel gofal plant a dibynadwyedd band eang, a gall hefyd gael effaith negyddol ar iechyd meddwl pobol.
“Mae angen i ni i gyd barhau i fod yn wyliadwrus a chadw pobol yn ddiogel, ond gall gweithio gartref fod yn her i rai oherwydd materion fel gofal plant a dibynadwyedd band eang, a gall hefyd gael effaith negyddol ar iechyd meddwl pobol.
“Mae seneddau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a ledled y byd yn gallu cwrdd yn ddiogel ac yn bersonol, ac nid oes rheswm y dylid atal Senedd Cymru rhag gwneud hynny.”
Llacio’n raddol
Bydd Cymru’n dychwelyd at lefel rybudd sero – y lefel rybudd isaf – ar Ionawr 28 pe bai achosion Covid-19 yn parhau i ostwng.
Cynhaliwyd y sesiwn rhithiol cyntaf o’r Senedd yn gwbl rithiol fis Ebrill 2020 ond ers hynny mae’r Senedd wedi cyfnewid rhwng sesiynau hybrid a chwbl rithiol.
Mae golwg360 wedi gofyn i Gomisiwn y Senedd am ymateb.