Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, yn dweud bod unoliaethwyr yn dadlau o blaid cynnal yr Undeb gan fod “annibyniaeth ar y ffordd”.

Daw ei sylwadau yn dilyn dadl yr Uwch Bwyllgor Cymreig yn San Steffan, wrth iddo ddweud bod unoliaethwyr yn codi’r un “dadleuon masnachol dros yr Undeb” o hyd.

Dywed nad yw’n syndod mai cryfhau’r Undeb oedd pwnc y ddadl, gan ddadlau bod San Steffan yn sylweddoli bod y gefnogaeth i’r Undeb yn pylu, tra bod annibyniaeth yn dod yn fwy poblogaidd erbyn hyn.

Mae’r Uwch Bwyllgor Cymreig wedi bod yn cyfarfod am y tro cyntaf ers 2018, a hynny er mwyn “ystyried y mater o Gryfhau’r Undeb fel y mae’n ymwneud â Chymru”.

Fe fu rhai aelodau seneddol yn siarad yn Gymraeg yn ystod y sesiwn, gan fod hynny wedi’i ganiatáu yn ystod Dadleuon yr Uwch Bwyllgor Cymreig ers newid rheolau yn 2018.

Yn wir, mae’n un o’r achlysuron prin pan fo’r Gymraeg wedi’i chlywed yn San Steffan ers 2017.

Mwy o Gymraeg?

Mewn cyfweliad i gylchgrawn golwg yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd Ben Lake, sydd wedi cadeirio Cyfarfodydd o’r Pwyllgor Materion Cymreig yn absenoldeb Stephen Crabb, ei fod yn gobeithio y byddai mwy o ddefnydd o’r iaith yno.

Er nad oes hawl gan aelodau i gyfrannu yn Gymraeg i ddadleuon ar lawr y siambr yn Nhŷ’r Cyffredin, mae hawl gan dystion sy’n ymuno â chyfarfodydd pwyllgor i gyfrannu yn Gymraeg, er mai yn anaml mae hynny’n digwydd.

“Dw i yn cydnabod nad oes llawer o Gymraeg wedi bod, sai’n credu bod yna sesiwn ddwyieithog ers sawl mis, ond yn sicr byddwn am weld mwy o ddefnydd o’r iaith Gymraeg yn y Senedd,” meddai Ben Lake.

“Mae mwy a mwy yn defnyddio’r Gymraeg ar ddechrau trafodaeth, ond yn ogystal â’r Gymraeg mae’n rhaid i [Senedd San Steffan] ddefnyddio ieithoedd brodorol eraill sy’n cael eu siarad ar hyd y Deyrnas Unedig.”

‘Aruchel a gobeithiol’

“Rydyn ni wedi clywed dadleuon fod y Fam Undeb yn darparu yn hael, yn tywallt buddion unigryw na fyddai ein gwlad fach ni yn medru eu hennill, eu dyfeisio na’u fforddio,” meddai Hywel Williams.

“Ac ar y llaw arall dywedir heb yr undeb byddem mewn lle sal iawn – fel soniodd Aelod Gorllewin Clwyd – wedi ei llethu gan ddyled, heb wasanaeth iechyd digonnol, heb addysg teilwng.

“Does ryfedd felly fod rhai pobl ifanc – dim ond rhai – yn meddwl yn yr un termau masnachol am yr Undeb. ‘Transactional’, ydy’r term a fyddwn wedi ei ddefnyddio pe byddwn yn siarad mewn stafell ddarlithio. Efallai bod rhai yn aralleirio John F Kennedy, ‘Ask not what I can do the Union, ask what the Union can do for me.’

“Diolch byth mae rhai pobl ifanc eraill yn meddwl mewn termau mwy aruchel a mwy gobeithiol am ein gwlad.

“Ond masnachol neu aruchel, mae’r duedd i’w gweld yn glir. Pobl hŷn sy’n cefnogi’r undeb, a’r gefnogaeth honno yn lleihau yn sylweddol ac yn drawiadol iawn wrth i oedran y grwp a holir ostwng.

“Mae’r gefnogaeth i annibyiaeth yn mynd yn iau, ac unolyddiaeth yn heneiddio.

“Felly, does ryfedd fod y twf cyson yn y garfan sy’n gofyn, os ydy’r Undeb cystal – paham ein bod ni mewn y fath gyflwr.

“Ac i ateb pwynt a gododd un Aelod bore ma. Mae Plaid Cymru a’r Blaid Werdd yn cefnogi annibyniaeth. Ond hefyd – os oes rhyw dryst i’w roi yn y polau – mae tua hanner cefnogwyr Llafur hefyd naill ai yn cefnogi, neu yn barod i ystyried annibyniaeth, beth bynnag a ddywed eu harweinwyr.

“Does ryfedd felly mai cryfhau’r undeb a ddewiswyd fel a mater o gonsyrn heddiw. Oherwydd y gwir ydy fod y gefnogaeth i annibyiaeth yn tyfu ac yn mynd yn iau tra fod unolyddiaeth yn lleihau ac yn heneiddio.”