Mae teulu wedi talu teyrnged i ddyn o Lanbed, a fu farw ar ôl cael ei ymosod arno gan gŵn yn ei gartref yr wythnos ddiwethaf.

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i dŷ yn Pleasant Hill, yn dilyn adroddiadau bod tri chi wedi ymosod ar John William Jones, 68, a fu farw yn y fan a’r lle.

Yn ddiweddarach, cafodd dynes ei harestio ar amheuaeth o fod yn rhan o’r digwyddiad, ond cafodd hi ei rhyddhau o’r ddalfa tra bod yr heddlu yn cynnal ymholiadau pellach.

Fe gafodd y tri chi tarw Prydeinig a oedd yn rhan o’r ymosodiad eu tywys o’r eiddo gan yr heddlu.

‘Bydd colled fawr ar ôl William’

Dywed aelodau o’i deulu – ei frawd Tomos Jones a’i nith Rhiannon Evans – fod William, fel yr oedd yn cael ei adnabod, yn “fab cariadus, a’n frawd a brawd-yng-nghyfraith perffaith”.

“Roedd ei ewythr, ei neiaint a’i nithoedd yn ei garu’n fawr iawn,” medden nhw.

“Dros y blynyddoedd, roedd William wedi mynychu canolfan ofal i oedolion yn Felinfach, cyn symud i Ganolfan Gymunedol Padarn yn Aberystwyth.

“Roedd William yn gefnogwr brwd o Lerpwl, yn ffan o rygbi Cymru ac roedd ganddo lygad dda am jig-sos.

“Bydd colled fawr ar ôl William gan ei deulu a’r sawl ffrind oedd wedi ei adnabod dros y blynyddoedd.”

 

Dyn yn ei 60au wedi cael ei ladd gan gŵn yn Llanbed

Cafodd dynes ei arestio yn ddiweddarach ar amheuaeth o fod yn rhan o’r digwyddiad