Mae dyn yn ei 60au wedi cael ei ganfod yn farw yn Llanbed ar ôl cael ei frathu gan gŵn.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ ar gyffiniau Ffordd Maesycoed ychydig wedi 5 o’r gloch brynhawn dydd Llun (Ionawr 10), yn dilyn adroddiadau bod tri chi wedi ymosod ar John William Jones, 68, a fu farw yn y fan a’r lle.
Mae’r tri chi tarw Prydeinig a oedd yn rhan o’r ymosodiad bellach wedi eu cymryd o’r eiddo gan yr heddlu.
Yn ddiweddarach, cafodd dynes ei harestio ar amheuaeth o fod yn rhan o’r digwyddiad, ond mae hi bellach wedi ei rhyddhau o’r ddalfa tra bod yr heddlu yn cynnal ymholiadau pellach.
Datganiad yr heddlu
“Rydyn ni ar hyn o bryd yn ymchwilio i’r amgylchiadau o gwmpas marwolaeth dyn mewn eiddo yn Llanbedr Pont Steffan,” meddai Heddlu Dyfed-Powys.
“Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys eu galw ychydig wedi 17:00 ddydd Llun (10 Ionawr), yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei frathu gan gi ar yr aelwyd.
“Yn anffodus, bu farw dyn yn ei 60au yn y fan a’r lle.
“Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi oedd allan o reolaeth. Mae hi wedi cael ei rhyddhau dan ymchwiliad tra bod yr heddlu yn cynnal ymholiadau pellach.
“Doedd y cŵn ddim yn disgyn o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus 1991 ac maen nhw wedi cael eu tynnu o’r eiddo.”