Bydd ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau, Antony Blinken, yn cyfarfod ag ysgrifennydd gwladol Rwsia yn y Swistir yr wythnos hon wrth i densiynau rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia gynyddu dros ymosodiad posibl ar yr Wcráin.
Mae Antony Blinken wedi cyrraedd Kiev ar gyfer trafodaethau gydag Arlywydd yr Wcráin wrth i weinyddiaeth Joe Biden ddweud ei bod yn darparu 200 miliwn o ddoleri ychwanegol (£147 miliwn) mewn cymorth milwrol i’r wlad.
Dywedodd un o uwch swyddogion gweinyddiaeth yr Unol Daleithiau fod y cymorth wedi’i gymeradwyo ddiwedd mis Rhagfyr fel rhan o ymdrechion yr Unol Daleithiau i helpu’r Wcráin i ddiogelu ei hun.
Cyrhaeddodd Antony Blinken Kiev ddydd Mercher (19 Ionawr), lle bydd yn cwrdd ag arweinydd yr Wcráin, Volodymyr Zelenskyy, cyn symud ymlaen i Berlin i gynnal trafodaethau gyda chynghreiriaid.
Ddydd Gwener (21 Ionawr), bydd yn cyfarfod â gweinidog tramor Rwsia Sergey Lavrov yn Genefa.
Gwrthod honiadau am ymosodiad posib
Mae Rwsia wedi anwybyddu galwadau i dynnu ei milwyr yn ôl o’r ffin, gan ddweud bod ganddi hawl i ddefnyddio ei lluoedd lle bynnag y mae’n mynnu ar ei thiriogaeth ei hun.
Daw cyfarfodydd Antony Blinken yn dilyn trafodaethau diplomyddol rhwng Moscow a’r gorllewin yn Ewrop yr wythnos ddiwethaf a oedd wedi methu â datrys anghytundebau amlwg dros yr Wcráin a materion diogelwch eraill.
Yn hytrach, mae’n ymddangos bod y cyfarfodydd hynny wedi cynyddu ofnau am ymosodiad o Rwsia.
Ddydd Llun (17 Ionawr) gwrthododd Sergey Lavrov honiadau’r Unol Daleithiau fod ei wlad yn paratoi i ymosod ar yr Wcráin.
Ailddatganodd Sergey Lavrov fod Rwsia’n disgwyl ymateb ysgrifenedig yr wythnos hon gan yr Unol Daleithiau a’i chynghreiriaid i gais Moscow am warantau na fydd Nato yn croesawu’r Wcráin nac unrhyw wledydd cyn-Sofietaidd eraill neu’n gosod eu lluoedd a’u harfau yno.
Pwysleisiodd Antony Blinken wrth Sergey Lavrov ddydd Mawrth (18 Ionawr) fod yn rhaid i unrhyw drafodaeth ar ddiogelwch Ewropeaidd gynnwys Nato a phartneriaid Ewropeaidd eraill, gan gynnwys yr Wcráin.
Mae dros 14,000 o bobl wedi’u lladd mewn bron i wyth mlynedd o ymladd rhwng y gwrthryfelwyr sy’n cael eu cefnogi gan Rwsia a lluoedd yr Wcráin yng nghanol ardal ddiwydiannol y wlad, Donbas.
Mae Vladimir Putin wedi rhybuddio y bydd Moscow yn cymryd “mesurau milwrol-technegol” os yw’r gorllewin yn gwrthod ei ofynion.