Mae angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun gweithredu brys ar gyfer costau byw, yn ol Sioned Williams AoS, llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.

Dywed Sioned Williams fod gormod o aelwydydd yng Nghymru yn cael eu gwasgu rhwng costau cynyddol eitemau bob dydd, biliau cartref cynyddol a chyflogau statig.

Bydd Plaid Cymru yn arwain dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, 19 Ionawr), gan alw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu costau byw brys i fynd i’r afael â’r pwysau a achosir gan y ddwy broblem o gostau cynyddol a chyflogau sy’n aros yn eu hunfan.

“Argyfwng”

“Nid rhywbeth sydd ar y gorwel yw’r argyfwng hwn – mae’n real ac eisoes yn effeithio ar ormod o aelwydydd yng Nghymru,” meddai Sioned Williams AoS.

“Mae costau byw cynyddol, costau ynni cynyddol a chyflogau statig i gyd yn gymysg gyda’i gilydd ac yn creu storm berffaith.

“Mae miloedd o gartrefi yng Nghymru – sy’n cyfateb i boblogaeth maint Abertawe – eisoes yn ei chael hi’n anodd talu am eitemau bob dydd.

“Gyda chostau ynni a threthi cynyddol yn agosáu yng Ngwanwyn 2022, bydd y costau ychwanegol a ragwelir o £1,200 yn naid rhy bell i’r rhai sydd eisoes o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

“Gydag ychydig iawn o fisoedd ar ôl cyn codi’r cap ar brisiau ynni, rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu yn syth i fynd i’r afael â’r argyfwng sydd ar fin digwydd, a chyhoeddi cynllun gweithredu brys.

“Er bod llawer o’r grymoedd yn nwylo’r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, ein lle ni yng Nghymru yw amddiffyn pobl rhag baich y storm.”