Mae ymchwiliad wedi codi amheuon am gynllun gwerth £200m i adeiladu parc antur yn ne Cymru.
Mae’r ‘Afan Valley Adventure Resort’ wedi derbyn cefnogaeth yr anturiaethwr byd enwog Edward Michael Grylls – sy’n galw ei hun yn ‘Bear’ Grylls.
Ond gŵr o’r enw Gavin Woodhouse sydd tu ôl i’r cynllun.
A bellach mae ymchwiliad gan ITV News a The Guardian wedi darganfod bod Gavin Woodhouse wedi bod ynghlwm â phrosiectau drud yn y gorffennol na chafodd eu cwblhau.
Mae ansicrwydd am y prosiectau yma yn parhau, ac mae unigolion wnaeth fuddsoddi arian ynddyn nhw yn honni nad ydyn nhw wedi derbyn eu harian yn ôl.
Prosiectau’r gorffennol
Rhwng 2013 a 2015, gwnaeth Gavin Woodhouse berswadio buddsoddwyr i gyfrannu cyfanswm o £16m at bedwar cynllun.
Cynlluniau oedden nhw i adeiladu cartrefi gofal – The Smithy Bridge, The Walsden Care Village, Hawthorn Care Village, Clifton Moor – a does dim un o’r rhain wedi’u gwireddu.
Mae ITV News a The Guardian wedi siarad â phobol a fuddsoddodd yn y cynlluniau, ac mae gan bob un o’r cynlluniau fuddsoddwyr sy’n dal i aros am ad-daliad gan Gavin Woodhouse.
Mae Gavin Woodhouse wedi cyfaddef bod un o’i gwmnïau wedi profi “trafferthion ariannol”, ond mae’n dal i fynnu y bydd ei gynlluniau’n cael eu gwireddu.
Bear Grylls a’r parc antur
Dyw Gavin Woodhouse ddim wedi tynnu sylw at gynlluniau’r gorffennol wrth geisio denu buddsoddwr i’w ‘barc antur’.
Mae ITV News a The Guardian yn deall bod y ‘Bear Grylls Survival Academy’ yn derbyn £180,000 y flwyddyn am gefnogi ‘Afan Valley Adventure Resort’ yn gyhoeddus.
Dyw’r ‘Bear Grylls Survival Academy’ ddim wedi gwneud sylw, ond does dim lle i gredu bod Bear Grylls yn gwybod am gefndir Gavin Woodhouse cyn ymrwymo i’w gefnogi.