Mae Brexit a Covid-19 yn cynnig “cyfle i ailosod perthnasau” rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig o fewn yr Undeb, yn ôl un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi.

Mae adroddiad Pwyllgor y Cyfansoddiad, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Ionawr 20), yn galw am newid y ffordd y mae’r Undeb yn gweithredu ac i’w gwneud hi’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Ymhlith argymhellion y pwyllgor mae rhoi mwy o lais i’r llywodraethau datganoledig ar wariant, ynghyd â diwygio gweithrediadau o fewn adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae’r Deyrnas Unedig, yr Undeb, yn nodi ei chanmlwyddiant yn 2022,” meddai’r Farwnes Ann Taylor, cadeirydd y pwyllgor.

“Ar ôl heriau Brexit a Covid-19, mae yna angen clir a chyfle clir i ailosod perthnasau rhwng ei holl gydrannau i gyflawni undeb sy’n gweithio’n well.

“Bydd hyn yn ein helpu i gadw i fyny â’r newidiadau chwim a’r heriau niferus sy’n ein hwynebu ni i gyd ac y bydd rhaid i bob haen o’r llywodraeth fynd i’r afael â nhw yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi gweledigaeth a naratif sy’n gredadwy at ei gilydd ar gyfer y Deyrnas Unedig yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Gweledigaeth y pwyllgor yw undeb fwy cydweithredol yn seiliedig ar synnwyr newydd o barch a phartneriaeth rhwng gwahanol haenau’r llywodraeth a phwyslais newydd ar rannu llywodraethiant er lles ei holl ddinasyddion.

“Ond er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, mae angen ffydd a dull adeiladol gan lywodraethau canolog, datganoledig a lleol.”

Diwygio Whitehall er mwyn cryfhau’r Undeb?

Wrth drafod diwygiadau angenrheidiol yn Whitehall, mae’r pwyllgor yn galw am “fwy o barch a chydweithredu” rhwng adrannau a rhannau’r Deyrnas Unedig, gan ychwanegu y byddai hynny’n “cryfhau” yr Undeb.

“Er mwyn ymdrin yn effeithiol â heriau llywodraethu’r Deyrnas Unedig yn yr unfed ganrif ar hugain ac ymateb iddyn nhw, mae angen newid diwylliant yn sylweddol yn Whitehall, gan gynnwys terfyn ar ei meddylfryd ‘o’r top i’r gwaelod’,” meddai’r pwyllgor.

“Ar ôl cwblhau’r adolygiad o berthnasau rhynglywodraethol ac os, neu pan fydd datganoli’n cael ei ymestyn ledled Lloegr, bydd angen i Whitehall drawsnewid sut mae’n rheoli ac yn cymedroli rhwng gwahanol fuddiannau’r gwledydd a’r rhanbarthau.”

Portffolio Michael Gove

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi pryderon ynghylch portffolio eang Michael Gove, sydd â chyfrifoldeb am berthnasau rhynglywodraethol ac fel Ysgrifennydd Gwladol Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau.

Mae ei gyfrifoldebau ehangach “mewn perygl o danseilio’i ffocws ar y maes pwysig hwn”, meddai’r adroddiad.

Mae’r pwyllgor yn croesawu’r gronfa sy’n rhannu llewyrch, sydd wedi bod yn ddadleuol ymhlith y llywodraethau datganoledig sy’n credu ei bod yn torri’r setliad datganoli.

Ond mae’r adroddiad yn nodi bod y pwyllgor wedi clywed am “bryderon sylweddol” ynghylch rôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth ddyrannu arian o’r gronfa mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, a hynny heb dynnu’r llywodraethau neu awdurdodau datganoledig i mewn i’r broses.

“Dydy diffyg ymgysylltu’r llywodraeth â’r gweinyddiaethau datganoledig ar ddyluniad cyfan y gronfa ddim yn help ac mae wedi tanseilio ymddiriedaeth,” meddai.

“Er mwyn ailadeiladu ymddiriedaeth a phartneriaeth, rydym yn argymell y dylai fod gan y gweinyddiaethau datganoledig a’r awdurdodau datganoledig rôl sy’n fwy adeiladol wrth lywodraethu’r gronfa, gan gynnwys penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau lleol a dyrannu arian.”

Ymateb

Yn ôl Tommy Sheppard, aelod seneddol yr SNP, mae’r adroddiad yn “siomedig o unochrog”, ac mae’n dweud bod y pwyllgor “wedi gwneud eu penderfyniad fod yr Undeb yn beth da yn ddi-gwestiwn cyn iddyn nhw glywed eu tyst cyntaf”.

Yn ôl llefarydd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig “wedi ymrwymo i gydweithio â’r llywodraethau datganoledig i weithredu ar ran pobol ledled y Deyrnas Unedig gyfan”.

“Roedd cyflwyno ein brechlynnau’n llwyddiannus gan arwain yn y byd yn golygu cydweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae llywodraethau datganoledig newydd dderbyn eu setliad ariannu blynyddol termau real mwyaf ers datganoli dros 20 mlynedd yn ôl,” meddai.

“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethon ni gyhoeddi cytundeb nodedig hefyd gyda’r llywodraethau datganoledig ynghylch ffyrdd o weithio, sy’n cynnwys cyngor sydd wedi’i gadeirio gan y Prif Weinidog lle mae Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Gwaith Gogledd Iwerddon yn gallu codi unrhyw faterion i fynd i’r afael â nhw mewn modd cydweithredol.

“Bydd hyn yn seiliedig ar egwyddorion parch at ein gilydd, ac mae’n adeiladu ar flynyddoedd o gydweithredu sy’n bod eisoes.”