Mae Boris Johnson yn ddiogel yn ei swydd am y tro, ar ôl i’r pwysau arno i ymddiswyddo tros bartïon yn Downing Street gynyddu a gostegu rywfaint eto.

Fe wnaeth David Davis, Aelod Seneddol Ceidwadol amlwg, fynnu bod rhaid i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig fynd “yn enw Duw”, yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe (dydd Mercher, Ionawr 19), ac ychydig funudau cyn y sesiwn, gadawodd un Aelod Seneddol Toriaidd y blaid er mwyn ymuno â’r Blaid Lafur.

Mae rhai yn dweud bod Boris Johnson wedi cael ei arbed am y tro gan gydweithwyr sy’n ystyried gorfodi pleidlais o ddiffyg hyder ynddo, ond sydd am aros nes eu bod nhw’n clywed canlyniad ymchwiliad Sue Gray i’r digwyddiadau gafodd eu cynnal yn Rhif 10 yn ystod y cyfnodau clo.

Roedd Boris Johnson wedi bod yn trafod ag Aelodau Seneddol y meinciau cefn i geisio ennill cefnogaeth ac atal 54 o lythyrau rhag cael eu gyrru at Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922.

Mae angen iddo dderbyn 54 o lythyrau gan Aelodau Seneddol Ceidwadol er mwyn cynnal pleidlais o ddiffyg hyder.

Dywed Rhif 10 y bydd Boris Johnson yn cwffio unrhyw bleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn, gan fynnu ei fod yn disgwyl sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

‘Marw marwolaeth araf’

Mewn cyfweliad gyda’r Daily Telegraph, dywed David Davis, a gafodd ei ethol am y tro cyntaf yn 1987, fod “y blaid yn mynd i orfod gwneud penderfyniad” neu “wynebu marw marwolaeth o araf”.

Mae hi’n edrych fel pe bai’r Prif Weinidog yn barod i drosglwyddo’r bai i rywun arall petai’n diswyddo staff ar ôl i Sue Gray gyhoeddi ei ymchwiliad, meddai David Davis.

Yna bydd yr “argyfwng” biliau ynni a’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol yn cael eu gwaethygu gan yr “anhrefn” yn Rhif 10, meddai, a gall hynny arwain at bleidlais o ddiffyg hyder dros y Nadolig, gan olygu “blwyddyn o boen”.

“Dyna’r canlyniad gwaethaf, yn enwedig o ystyried 2019 a 2017 a 2015 – bod hyn, fesul dipyn, yn parhau ac yn rhygnu ymlaen, ac, yn waeth, ein bod ni’n creu polisïau i drio’i guddio.”

Mae Jacob Rees-Mogg, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, yn ceisio diystyru sylwadau David Davis, gan ddweud ei fod “wastad wedi bod ar ei ben ei hun, mewn ffordd”.

“Fyddai neb yn galw David yn ansylweddol, mae e’n ffigwr gwleidyddol sylweddol iawn, ond roedd ei sylwadau heddiw’n rhy theatrig,” meddai.

Christian Wakeford

Roedd hi’n ymddangos, i bob pwrpas, fod grŵp o Dorïaid a enillodd eu seddi am y tro cyntaf yn 2019 wedi colli ffydd yn eu harweinydd.

Ar ôl i’r Aelod Seneddol Ceidwadol Christian Wakeford adael y blaid ac ymuno â’r Blaid Lafur, gwrthododd llefarydd ar ran y Blaid Lafur ddweud a oes mwy o Aelodau Ceidwadol yn ystyried symud pleidiau.

Dywedodd ysgrifennydd y wasg Boris Johnson nad ydi hi’n ymwybodol o unrhyw Aelodau sy’n ystyried symud.

Ar ôl gwneud y cyhoeddiad, dywedodd Christian Wakeford fod y Blaid Geidwadol yn “trio amddiffyn yr anamddiffynadwy” wrth esbonio’i benderfyniad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur eu bod nhw wedi bod yn trafod gyda Christian Wakeford ers “peth amser”, ac y bydden nhw’n croesawu etholiad, ar ôl i Boris Johnson ddweud y byddai’r Ceidwadwyr yn adennill etholaeth De Bury, etholaeth Christian Wakeford.

Mae Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, wedi awgrymu y dylid cynnal is-etholiad yn Ne Bury.

Honiadau am bartïon

Yn Nhŷ’r Cyffredin, fe wnaeth Boris Johnson ymddiheuro eto am yr honiadau am bartïon, gan ddweud mai lle ymchwiliad Sue Gray yw “cynnig esboniad am yr hyn ddigwyddodd”.

Mae Boris Johnson wedi cyfaddef iddo fynd i’r parti “dewch â’ch diodydd eich hunain” yng ngardd Rhif 10 fis Mai 2020.

Mynnodd eto na ddywedodd neb wrtho fod y digwyddiad yn mynd yn groes i’r rheolau, a’i fod yn credu ei fod yn mynd i ddigwyddiad gwaith.

Yn ôl Dominic Cummings, cyn-brif ymgynghorydd y Prif Weinidog, roedd Boris Johnson yn gwybod am y digwyddiad ymlaen llaw, a chafodd ei rybuddio ei fod yn torri’r rheolau.

Mae gweinidogion wedi annog aelodau seneddol Ceidwadol i aros am ganlyniad adroddiad Sue Gray cyn penderfynu gweithredu yn erbyn Boris Johnson.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid wrth gynhadledd i’r wasg ei fod yn “llawn gefnogi’r Prif Weinidog”.

Wnaeth Sajid Javid ddim diystyru’r posibilrwydd y gallai geisio am arweinyddiaeth y blaid eto, ond dywedodd.

“Mae gennym ni arweinydd. Mae gennym ni Brif Weinidog,” meddai, serch hynny.

Mae saith Aelod Seneddol Torïaidd wedi galw’n gyhoeddus ar Boris Johnson i ymddiswyddo, dipyn llai na’r 54 llythyr sydd angen eu cyflwyno i’r Pwyllgor 1922 i ddechrau her i’w arweinyddiaeth.

Byddai’r cyfanswm wedi codi i wyth pe bai Christian Wakeford wedi aros yn Aelod Ceidwadol.

Cwestiynau’r Prif Weiniodog: “Yn enw Duw, ewch,” meddai un Ceidwadwr blaenllaw

Daw sylwadau David Davis am Boris Johnson ar ddiwrnod pan fo’r prif weinidog yn wynebu pwysau pellach i ymddiswyddo

“Croeso!”: Aelod Seneddol Ceidwadol yn symud at y Blaid Lafur

Mae dau aelod seneddol o Gymru wedi ei groesawu i’r Blaid Lafur