Doedd bron i hanner (48.9%) yr ambiwlansys gafodd eu galw at achosion brys, lle’r oedd bywyd yn y fantol, ddim wedi cyrraedd o fewn y targed o wyth munud yn ystod mis Rhagfyr 2021.

Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn dangos mai 51.1% o’r ymatebion brys i alwadau coch gyrhaeddodd o fewn y targed – 1.9 pwynt canran yn is na mis Tachwedd.

Targed y gwasanaeth yw ymateb i 65% o alwadau coch mewn wyth munud, ond mae’r targed wedi cael ei fethu 17 mis yn olynol.

Ym mis Rhagfyr, canolrif yr amser aros ar gyfer galwadau coch oedd saith munud a 52 eiliad.

Roedd yr amseroedd ymateb arafaf yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, lle cyrhaeddodd 42.2% o ambiwlansys at alwadau brys o fewn wyth munud.

Does dim targed ar gyfer galwadau oren, ond mae’r ystadegau’n dangos mai awr ac ugain munud oedd canolrif yr amser ymateb ar eu cyfer ym mis Rhagfyr 2021, dros 11 munud yn arafach nag ym mis Tachwedd.

Rhestrau aros

Er bod y data’n dangos bod nifer y bobol ar restrau aros am driniaethau wedi cynyddu 0.4% ym mis Tachwedd i fwy na 682,000, dyma’r cynnydd misol lleiaf ers dechrau’r pandemig.

Cafodd dros 78,000 o lwybrau cleifion eu cau, y nifer fwyaf ers bron i ddwy flynedd, ac yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r data’n “dangos y cynnydd oedd yn dechrau cael ei wneud” ym mis Tachwedd, cyn dechrau teimlo effeithiau achosion Omicron a’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

O blith y 682,000 o gleifion oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Tachwedd, roedd 45.3% wedi bod yn aros dros 26 wythnos.

Mae hynny’r un ganran ag ym mis Hydref, ond 30% yn uwch nag ym mis Tachwedd 2019.

Mae nifer y cleifion sydd wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau’r pandemig.

Ym mis Tachwedd, roedd bron i 242,000 o gleifion – 35.4% o’r holl gleifion – wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos.

Mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos mai canolrif amser aros llwybr claf i ddechrau triniaeth oedd 22.3 wythnos ym mis Tachwedd – gostyngiad bychan o 22.4 wythnos ym mis Hydref.

Dangosa’r ystadegau bod un ymhob pedwar claf yng Nghymru yn aros dros ers blwyddyn am driniaeth, a bod 42,525 wedi bod yn aros dros ddwy flynedd.

Adrannau brys

Mae’r data ar gyfer mis Rhagfyr yn dangos bod 66.5% o gleifion wedi treulio llai na phedair awr, sef y targed, mewn adrannau brys.

Roedd hynny 1.3% yn is nag ym mis Tachwedd, a chanolrif yr amser a gafodd ei dreulio mewn adrannau brys oedd tair awr a munud.

Dyma’r ail amser hiraf ar gofnod ers dechrau casglu data ym mis Ebrill 2012, ac mae’n gynnydd o’r ddwy awr 56 a gafodd ei dreulio ym mis Tachwedd.

Ar gyfartaledd, treuliodd oedolion 85 oed a hŷn saith awr a 31 munud mewn adrannau achosion brys ym mis Rhagfyr.

Treuliodd ychydig dros 8,500 o gleifion 12 awr neu fwy mewn adrannau brys yn ystod mis Rhagfyr, oedd 252 yn llai na’r mis blaenorol.

Roedd y sefyllfa waethaf ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gyda dim ond 61% yn cael eu gweld o fewn pedair awr, ac Ysbyty Maelor Wrecsam oedd yr ysbyty â’r amseroedd aros hiraf yng Nghymru.

‘Trychineb’

Mae’r ystadegau hyn yn “drychineb”, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Dyw’r targedau ddim hyd yn oed yn agos i gael eu cyrraedd, ac mae amseroedd aros ambiwlansys wedi gwaethygu ymhellach,” meddai’r arweinydd Jane Dodds.

“Rydyn ni gyd yn deall y pwysau sylweddol mae’r pandemig wedi’i roi ar y Gwasanaeth Iechyd, ond dyw’r problemau hyn ddim yn rhai newydd.

“Os ydyn ni am leihau’r pwysau ar ein gwasanaethau ambiwlans ac ein hadrannau brys, mae’n rhaid i ni fuddsoddi mwy mewn gofal iechyd cymunedol a meddygon teulu.

“Pe bai pobol yn gallu cael apwyntiad gyda’u meddyg teulu mewn amser rhesymol byddai llai o lawer o bwysau ar wasanaethau brys.”

Ychwanega fod angen gweithredu ar ofal cymdeithasol hefyd, i atal niferoedd uchel o bobol rhag mynd i adrannau brys.

Wrth siarad cyn i’r data diweddaraf gael ei gyhoeddi, dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, fod angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â phroblemau hirhoedlog yn y Gwasanaeth Iechyd.

‘Mwy o ddrwg na da’

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AoS, bod yr ystadegau’n dangos nad yw’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn lleihau.

“Rydyn ni wedi gweld adrannau brys yn cael eu llethu ers misoedd, heb yr adnoddau i ymdopi â’r mewnlifiad o gleifion, gyda goblygiadau pellach i ambiwlansys sy’n ceisio cyrraedd cleifion newydd oherwydd nad ydyn nhw’n gallu trosglwyddo hen rai i ysbytai, gan arwain at yr amseroedd aros gwaethaf yn adrannau brys Prydain,” meddai Russell George.

“Er ei bod hi’n bosib gwneud mwy i annog pobol i ddefnyddio fferyllfeydd cymunedol ac unedau mân anafiadau, ni ellir gwadu bod problemau wrth gael mynediad at feddygon teulu a’r cyfnodau clo yn dal i effeithio ar wasanaethau.

“Wrth gwrs, mae degawdau o doriadau i welyau, a chamreoli gan Lywodraeth Llafur ym Mae Caerdydd, wedi gwaethygu pethau, ond mae’n bosib y gallwn ni weld y tuedd hwnnw’n cael ei ddadwneud yn fuan petaen nhw’n sylwi ar yr angen i fyw â’r coronafeirws.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw Covid yn achosi nifer uchel iawn o dderbyniadau i ysbytai a marwolaethau ar hyn o bryd, ond mae’n niweidio gwasanaethau cyhoeddus – yn ogystal â busnesau preifat – drwy’r gofynion hunanynysu sy’n arwain at brinderau staff.

“Yn y pen draw, bydd rhaid i weinidogion Llafur ehangu eu golygon gan fod cyfyngiadau o’r fath yn gwneud mwy o ddrwg na da.”

‘Gaeaf anodd dros ben’

Wrth ymateb i’r data diweddaraf ar berfformiad Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gwasanaeth yn “delio â gaeaf anodd dros ben, ac, ar yr un pryd, yn wynebu heriau llethol yr amrywiolyn Omicron, pwysau difrifol y gaeaf ac absenoldebau staff yn sgil y pandemig”.

“Mae’r data’n dangos y cynnydd a oedd yn dechrau cael ei wneud mewn gofal wedi’i gynllunio ym mis Tachwedd, cyn i effeithiau’r don Omicron gael eu teimlo o ddifrif gan roi cryn bwysau ar y gwasanaeth iechyd yn ystod y gaeaf,” meddai’r llefarydd.

“Rydym yn disgwyl i ddata’r mis nesaf, a fydd yn cynnwys mis Rhagfyr, adlewyrchu hyn.

“Mae gweithwyr gofal iechyd yn haeddu clod am eu hymroddiad i gynnal gofal o ansawdd uchel i gannoedd o filoedd o gleifion bob mis, yn ogystal â chefnogi lefelau rhagorol o bigiadau atgyfnerthu yn y cam diweddaraf o’n rhaglen frechu Covid-19 dros y ddau fis diwethaf.

“Er gwaethaf pwysau parhaus i ddarparu gofal wedi’i gynllunio ac er bod rhai byrddau iechyd yn gorfod adolygu gofal o’r fath, mae lefelau gweithgarwch a diagnosis o ganser ill dau wedi cynyddu yn y data diweddaraf.

“O ran nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser ac a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, cynyddodd y nifer hwn i’r lefel uchaf ers i ddata cymaradwy ddechrau cael eu casglu ym mis Mehefin 2019.

“Ymhellach, cynyddodd nifer y cleifion a gafodd wybod nad oes ganddynt ganser, o gymharu â’r mis blaenorol.”

Gwella diagnosteg

Ychwanega Llywodraeth Cymru fod cynnydd wedi cael ei wneud o ran diagnosteg hefyd, yn dilyn buddsoddiad mewn cyfarpar.

“Rydym yn gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi ein gwasanaethau gofal brys ac argyfwng a byddem yn annog pawb i’n Helpu Ni i’ch Helpu Chi y gaeaf hwn drwy ystyried sut a phryd rydych yn cael at ofal iechyd,” meddai.

“Yn nes ymlaen eleni, bydd y cynllun ‘Fy Iechyd y Gaeaf Hwn’ yn nodi pum mlynedd ers ei sefydlu. Mae’r cynllun hwn yn cynnig ffordd hawdd i bobl â chyflyrau corfforol neu feddyliol hirdymor rannu gwybodaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n dod i’w gweld fel y byddant yn cael y gofal cywir ar gyfer eu hamgylchiadau personol. Yn aml, gall hyn osgoi taith ddiangen i’r ysbyty.

“Byddwn yn dosbarthu 20,000 o gynlluniau ychwanegol y gaeaf hwn. Bydd y rhain ar gael o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru a bydd modd eu lawrlwytho o wefan GIG 111 Cymru.

“Gall eich fferyllfa leol a gwasanaeth ar-lein 111 roi cyngor ar gyfer salwch ac anhwylderau ysgafn.”

 

‘Angen datrysiadau tymor hir ar gyfer problemau hirhoedlog yn y Gwasanaeth Iechyd’

Angen gwneud mwy na “disgwyl i Covid fynd”, meddai Rhun ap Iorwerth cyn i’r amseroedd aros diweddaraf gael eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Ionawr 20)