Mae Aelod Seneddol Ceidwadol blaenllaw yn cyhuddo Rhif 10 o “flacmêl”, gan ddweud bod staff wedi ei fygwth e a chydweithwyr am wrthwynebu Boris Johnson – ac mae Liz Saville Roberts yn ei gyhuddo o “godi’r gwastad” i’w gadw yn ei swydd.
Dywedodd William Wragg, cadeirydd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol, wrth Aelodau Seneddol fod staff Rhif 10, ymgynghorwyr, a chwipiau’r llywodraeth wedi dweud y byddai straeon fyddai’n codi cywilydd arnyn nhw yn cael eu rhyddau i’r wasg pe na baen nhw’n cefnogi’r prif weinidog.
Dywedodd hefyd fod Rhif 10 wedi bygwth rhoi llai o arian i’w etholaeth e, ac etholaethau aelodau eraill y meinciau cefn.
Mae William Wragg wedi annog aelodau Ceidwadol y meinciau cefn sy’n wynebu “bygythiadau” gan eu bod nhw’n cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder i fynd at yr heddlu.
Mae’n rhaid i’r heddlu ymchwilio honiadau Wiliam Wragg yn llawn, yn ôl dirprwy arweinydd y Blaid Lafur ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
‘Cyfystyr â blacmêl’
“Mae bygwth Aelod Seneddol yn fater difrifol,” meddai William Wragg.
“Byddai’r adroddiadau dw i’n ymwybodol ohonyn nhw yn gyfystyr â blacmêl,” meddai ar ddechrau gwrandawiad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol.
“Felly, fy nghyngor cyffredinol i gydweithwyr fyddai adrodd y materion hyn wrth lefarydd Tŷ’r Cyffredin a Chomisiynydd Heddlu’r Metropolitan.”
Dywedodd y gallai’r bygythiadau i dynnu arian cyhoeddus oddi wrth etholaethau aelodau seneddol fod yn groes i’r Cod Gweinidogol.
‘Mater difrifol eithriadol’
Wrth ymateb, dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod “codi’r gwastad”, rhaglen ariannu Llywodraeth San Steffan i gydraddoli rhannau o’r Deyrnas Unedig, wedi troi’n “flacmêl”.
“Efallai ein bod ni wedi cael ein dadsensiteiddio i adroddiadau dyddiol am lwgr Boris Johnson,” meddai.
“Ond mae hwn yn fater difrifol eithriadol y mae angen i’r heddlu ei ymchwilio.”
Ychwanegodd mai “fel hyn mae llywodraeth Doriaidd y Deyrnas Unedig yn defnyddio bygythiadau i ddal arian cyhoeddus er mwyn pwyso ar ei Haelodau Seneddol i gydymffurfio’n ddiymadferth”.
“Cronfeydd codi’r gwastad i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb? Wrth gwrs ddim, dim ond cadw Prif Weinidog Johnson yn Rhif 10,” meddai.
This is how UK Tory government uses threats to withold public money to browbeat its MPs into supine obedience.
Levelling up funds to tackle inequality? Of course not, just to keep PM Johnson in No 10. https://t.co/R8xfFCWCXI
— Liz Saville Roberts AS/MP ??????? (@LSRPlaid) January 20, 2022
Camddefnyddio arian
Dywed Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, fod rhaid cael ymchwiliad llawn i honiadau William Wragg.
“Mae’r rhain yn gyhuddiadau syfrdanol a difrifol am fwlio, blacmêl, a chamddefnyddio arian cyhoeddus, a rhaid eu hymchwilio’n fanwl,” meddai.
“Mae’r syniad y bydd ardaloedd yn ein gwlad yn cael eu hamddifadu rhag arian oherwydd nad yw eu Haelodau Seneddol yn cydymffurfio i gefnogi’r Prif Weinidog methedig hwn yn afiach.”