Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y dylai pobol “aros am y dystiolaeth” yn adroddiad Sue Gray “yn hytrach na darllen y penawdau newyddion”.
Mae Boris Johnson yn wynebu galwadau cynyddol i ymddiswyddo o du aelodau seneddol Ceidwadol, ond yn mynnu y dylid aros am gasgliadau adroddiad yr uwch-was sifil.
Wrth gael ei holi gan y BBC a yw’n dal i gefnogi Boris Johnson, mynnodd, fel nifer o aelodau Ceidwadol eraill, eu bod yn aros am gasgliadau ymchwiliad Sue Gray.
“Fe wnes i gwrdd â’r Prif Weinidog ddoe, ac wrth gwrs mae’n mwynhau fy nghefnogaeth,” meddai.
“Ond rwyf ac aros i weld casgliadau adroddiad Sue Gray, fel pawb arall, gan ei fod yn cwmpasu holl agweddau’r cyhuddiadau yn Downing Street.
“Fel person sy’n eistedd ar y pwyllgor safonau ym Mae Caerdydd ers bron i dair blynedd, un peth dw i wedi’i ddysgu yw y dylid aros am y dystiolaeth yn yr adroddiad yn hytrach na darllen penawdau newyddion.
“Ac yn aml iawn, mae’r dystiolaeth sy’n cael ei chyhoeddi yn yr ymchwiliadau yn cynnwys manylion sy’n amherthnasol i’r hyn sydd wedi bod yn y newyddion.
“Ac mae’r Prif Weinidog wedi dweud, ac mae’n iawn i wneud hynny, y bydd yn mynd gerbron siambr Tŷ’r Cyffredin i wrando.”
Mynnodd y newyddiadurwraig Annita McVeigh fod y wasg wedi bod yn “gwneud eu gwaith yn iawn” drwy ganfod fod nifer o bartïon wedi bod.
“Dydw i ddim yn aelod o’r Ceidwadwyr yn San Steffan, ac felly dydw i ddim yn llwyr ymwybodol o’r holl ddigwyddiadau yn San Steffan,” meddai.
Cyfyngiadau ‘cynllun B’
Mynnodd nad resymau gwleidyddol na chwaith p’un a oedd cymhelliad gwleidyddol y tu ôl i’r penderfyniad i symud i Gynllun B yn Lloegr.
Mae Andrew RT Davies yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i lacio cyfyngiadau Covid-19, gan fynnu eu bod yn dileu’r defnydd o basys Covid.
Bydd defnyddio’r pasys hyn yn dod i ben yn Lloegr ar Ionawr 27, ond dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi amlinellu pryd fydd eu defnydd yn dod i ben yma.
“Ni all yr un Llywodraeth barhau gyda’r drefn hon sy’n cyfyngu ar ein rhyddid personol, ac mae yna ddyledion enfawr gyda ni fel cenedl ac mae’n hollbwysig ein bod ni’n aildanio’r economi,” meddai.
Mae Llywodraeth Cymru’n wynebu her gyfreithiol gan grŵp sy’n ymgyrchu dros hawliau sifil – Big Brother Watch – sy’n ceisio adolygiad barnwrol o’r cynllun, gan ei ddisgrifio yn “ddidostur, gwahaniaethol a dibwrpas”.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd am i’r Llywodraeth amlinellu pryd fyddan nhw yn dod i ben.
Jacob Rees-Mogg
Yr wythnos ddiwethaf, cafodd Jacob Rees-Mogg, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, ei holi a oedd e’n gallu enwi arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru.
“Fe wnes i gwrdd â Jacob ddoe ac mae’n debyg fod yna gysylltiadau teuluol gyda ni,” meddai.
“Does dim arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig dynodedig yng Nghymru. Mae Simon Hart yn ein harwain yn San Steffan, fi sy’n arwain y Ceidwadwyr Cymreig ym Mae Caerdydd, a Glyn Davies sy’n arwain y Blaid wirfoddol.
“Ond dw i am weld y Cyfansoddiad hwnnw’n newid fel bod un arweinydd dynodedig yng Nghymru ac felly dw i’n siŵr nad oedd am gamarwain y Tŷ.”