Bydd Prifysgol Aberystwyth yn derbyn grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu cyfleusterau nyrsio newydd.
Ym mis Medi, bydd y brifysgol yn croesawu’r myfyrwyr cyntaf i’w cyrsiau nyrsio newydd, sydd wedi eu cymeradwyo gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Er mwyn darparu’r cyrsiau, bydd yr arian yn cael ei wario ar ddatblygu’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd, gan gynnwys gwaith adeiladu a buddsoddi mewn offer.
Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £1.7m gan y Brifysgol i’r safle nid nepell o Ysbyty Bronglais.
‘Addysg o’r radd flaenaf’
Y gobaith yw cwblhau’r gwaith erbyn mis Mawrth, mewn da bryd ar gyfer y myfyrwyr cyntaf ym mis Medi.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad pwysig hwn i gefnogi’r datblygiad,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
“Bydd yr arian hwn yn helpu i sicrhau bod gan y myfyrwyr newydd fynediad at yr adnoddau gorau ac addysg o’r radd flaenaf pan fyddant yn dechrau ym mis Medi.
“Yn ystod y pandemig, mae gwaith ein nyrsys a’n gweithwyr iechyd a gofal eraill wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’n anrhydedd mawr y byddwn ni’n addysgu nyrsys yma am y tro cyntaf ym mis Medi.
“Mae’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn ddatblygiad pwysig ar gyfer recriwtio a chadw nyrsys yng nghanolbarth Cymru, ac yn cynnig buddion ehangach i’r ardal.
“Yn ogystal, mae potensial i ysbrydoli modelau newydd o ddarparu gofal iechyd. Mae cefnogi anghenion cymunedol, mewn cydweithrediad agos â’n partneriaid, yn ganolog i’n cenhadaeth sifig, ac mae sefydlu addysg nyrsio yma yn rhan bwysig o hynny.
“Bydd ein cynlluniau hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig at wella darpariaeth iechyd meddwl a chyfrwng Cymraeg yn lleol a thu hwnt.”
Buddsoddi yn ‘flaenoriaeth’ i Lywodraeth Cymru
Mae’r cynlluniau i sefydlu addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi gallu cael eu gwireddu yn sgil cydweithrediad â nifer o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys.
Caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau newydd y cyfle i dderbyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Y bobol sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw ei enaid,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
“Mae buddsoddi mewn hyfforddiant a gweithlu’r dyfodol yn flaenoriaeth i ni.
“Rwy’n falch iawn bod ein cyllid yn helpu i gefnogi cam newydd i Brifysgol Aberystwyth o ran darparu hyfforddiant nyrsio.
“Dros y pum mlynedd diwethaf, mae lleoedd ar gyfer hyfforddi nyrsio wedi cynyddu 72% yng Nghymru ac rydym yn falch ein bod wedi cadw bwrsariaeth y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer myfyrwyr nyrsio er mwyn cefnogi pobol i ddilyn gyrfa mewn nyrsio.
“Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r ganolfan newydd pan fydd yn agor yn y gwanwyn a chwrdd â’r rhai sy’n dechrau ar y daith i fod yn nyrs.”