Mae carthion heb eu trin yn cael eu gollwng yn anghyfreithlon mewn afonydd ledled y Deyrnas Unedig yn rheolaidd.

Mae’n debyg bod saith cwmni dŵr yng Nghymru a Lloegr wedi rhyddhau carthion heb eu trin i afonydd a’r môr dros 3,000 o weithiau rhwng 2017 a 2021.

Cyfaddefa’r diwydiant dŵr fod angen gweithredu i fynd i’r afael â’r broblem yn sgil data newydd sy’n rhybuddio aelodau seneddol am “goctêls cemegol” o lygryddion mewn afonydd.

Dywed y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol fod carthion amrwd a microblastigau yn peryglu iechyd a natur.

Yn ôl y cadeirydd Philip Dunne, mae hunanfonitro gan gwmnïau dŵr wedi “troi llygad dall” i ollyngiadau carthion.

Mae’n annog rheoleiddwyr a chwmnïau dŵr i “gael gafael” ar y sefyllfa.

Afonydd Cymru

Mae grwpiau afonydd yn galw am adolygiad o sut mae achosion o lygredd dŵr yn dod yn destun ymchwiliad yng Nghymru.

Mae beirniadaeth ar Asiantaeth Amgylcheddol Lloegr yn dilyn dogfennaeth sydd wedi dod i’r amlwg sy’n dweud y dylai’r Asiantaeth anwybyddu achosion o lygredd ar raddfa fach.

Daw hyn yn dilyn canfyddiadau gan y papur newydd The Guardian ac Adroddiad Ends fod penaethiaid cwmnïau heb ddangos cefnogaeth i ddigwyddiadau amgylcheddol effaith isel oherwydd y diffyg cyllid i ymchwilio iddyn nhw.

Mae ymgyrchwyr yng Nghymru yn cyhuddo Cyfoeth Naturiol Cymru o gymryd agwedd debyg ers blynyddoedd, gan ddweud bod angen newid diwylliant yn y corff gwarchod.

Mae nodyn cyfarwyddyd o 2017 ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn awgrymu na fyddai’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau effaith lefel isel yn “haeddu presenoldeb” gan swyddogion, nac ymateb ar unwaith.

Fis Tachwedd, fe alwodd Llŷr Gruffudd, cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ar Lywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch afonydd rhag carthffosiaeth, ar ôl i gyfraith newydd gael ei phasio yn San Steffan.

Mae ‘Deddf yr Amgylchedd 2021’ yn cyflwyno ystod o fesurau newydd i leihau effaith niweidiol carthion ar afonydd ac ardaloedd arfordirol yn Lloegr.

Ymateb

Dywed Water UK, sy’n cynrychioli’r cwmnïau dŵr, fod yr holl gwmnïau dŵr yn cytuno bod “angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r niwed a achosir i’r amgylchedd gan orlifo”.

Dywed llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd, lle’r oedd tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio, na fydden nhw’n “petruso cyn mynd ar drywydd y cwmnïau dŵr dan sylw, a chymryd camau priodol”.

Maen nhw’n dweud bod 1,300 o systemau gorlifo stormydd a thanciau stormydd mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff wedi’u nodi fel rhai “sy’n gollwng yn aml” a bod “ymchwiliad mawr i ollyngiadau anawdurdodedig posibl ar filoedd o weithfeydd trin carthion yn parhau”.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi cadw cyllideb graidd CNC o £60m ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, “er gwaethaf wynebu llai o gyllideb gan San Steffan”.

“Byddwn yn parhau i gyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu sefyllfa ariannol a gweithredol, yn ogystal ag adolygu unrhyw bwysau a chyfleoedd dros y flwyddyn i ddod,” meddai.

 

Pryder am effaith carthion ar afonydd Cymru

Jacob Morris

Yn dilyn Deddf Amgylchedd 2021 sydd wedi ei phasio yn San Steffan, mae AoSau yn poeni bod afonydd Lloegr wedi eu diogelu’n well na rhai yng Nghymru.