Mae undebau wedi rhybuddio bod gofal deintyddol y Gwasanaeth Iechyd mewn perygl.
Mae data yn dangos bod 83 yn llai o ddeintyddion yng Nghymru yn 2020-21 nag yn 2019-20, sy’n cyfateb i 6% o holl weithlu deintyddol y Gwasanaeth Iechyd.
Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sydd wedi ei tharo waethaf, gyda 22% yn llai o ddeintyddion Gwasanaeth Iechyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Ar yr un pryd, mae pedwar bwrdd iechyd – Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf, a Hywel Dda – wedi colli o gwmpas un o bob 10 o’i gweithlu deintyddol.
‘Sefyllfa wirioneddol ddifrifol’
Mae cadeirydd pwyllgor deintyddfeydd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) yn rhybuddio bod deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd “mewn sefyllfa fregus”.
“Heb ddeintyddion y Gwasanaeth Iechyd, ni fyddai gwasanaeth deintyddol ganddyn nhw,” meddai Shawn Charlwood.
“Mae’n sefyllfa wirioneddol ddifrifol ac mae pob deintydd sy’n cael ei golli neu bob swydd wag sydd ddim yn cael ei llenwi yn effeithio ar filoedd o gleifion o ran gofal a’u gallu i gael mynediad at ofal.
“Mae blynyddoedd o gontractau aflwyddiannus a thanariannu wedi golygu fod nifer cynyddol o ddeintyddion bellach ddim eisiau parhau i adeiladu eu gyrfa gyda’r Gwasanaeth Iechyd. Mae’r pandemig wedi gwaethygu’r sefyllfa, ac rydyn ni bellach yn wynebu ecsodus.
“Mae gweinidogion wedi methu â deall nad oes modd cynnig gwasanaeth deintyddol yn rhan o’r Gwasanaeth Iechyd heb ddeintyddion.
“Yn hytrach na chosbi cydweithwyr, mae angen gwasanaeth sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo ymrwymiad.”
Mesur gweithgaredd
Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ganfod fod system Uned o Weithgaredd Deintyddol ar waith mewn gwasanaethau deintyddol yng Nghymru nes y llynedd.
Bwriad y system hon yw mesur gweithgaredd deintyddfeydd, ac os ydyn nhw’n methu cyrraedd targedau penodol, gallai rhanddeiliaid y ddeintyddfa orfod talu arian yn ôl i’r gwasanaeth.
Mae nifer wedi dadlau bod y system yn un o’r rhesymau allweddol pam fod deintyddion yn penderfynu gadael y Gwasanaeth Iechyd.
Yn 2020, penderfynodd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i stopio defnyddio’r system yn rhan o gyfres o ddiwygiadau i wasanaeth deintyddol.
Yn sgil hynny, mae’r BDA yn rhagweld y bydd nifer y deintyddion y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cynyddu eto o fewn rhai blynyddoedd.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y diwygiadau wedi eu cyflwyno er mwyn cefnogi’r gwasanaeth.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion cleifion deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru drwy ofal ataliol a mwy o fynediad, wedi’i gefnogi gan ddiwygio contractau,” meddai.
“Bydd hyn yn gweld symudiad graddol oddi wrth ddefnyddio targedau Unedau o Weithgarwch Deintyddol (UDA).
“Tra bod y pandemig wedi rhoi stop ar rywfaint o’r gwaith hwn, byddwn yn parhau i gefnogi deintyddfeydd yn ystod y cyfnod adfer wrth i ni symud y ffocws ar gynyddu mynediad i’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf.
“Gan fod presenoldeb Covid-19 yn parhau, mae mesurau iechyd cyhoeddus fel pellhau cymdeithasol, defnydd uwch o PPE, a gofynion rheoli heintiau yn golygu bod llai o gleifion yn cael gofal wyneb yn wyneb a bu’n rhaid i deintyddfeydd drin pobol yn ôl yr angen.
“Rydyn ni’n darparu £3m i fyrddau iechyd yn 2021-22 i hybu mynediad at wasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd, a £2m yn rheolaidd o 2022-23 i gefnogi mwy o ddarpariaeth.”