Mae Aelod Seneddol Llafur Torfaen wedi cyhuddo Boris Johnson o fod â mwy o ddiddordeb mewn achub ei swydd ei hun nag achub swyddi yn y sector dur.
Mae’r Blaid Lafur wedi beio “ymdriniaeth anniben” Llywodraeth y Deyrnas Unedig o Brotocol Gogledd Iwerddon am yr oedi mewn codi tariffau gan yr Unol Daleithiau ar alwminiwm a dur o wledydd Prydain.
Wrth bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi amser ar gyfer pryd mae modd disgwyl datrysiad i’r mater, dywedodd Nick Thomas-Symonds, Aelod Seneddol Torfaen a llefarydd masnach ryngwladol y Blaid Lafur yn San Steffan, fod y tariffau wedi gwneud “difrod mawr yn barod”.
Cododd y Blaid Lafur bryderon y gallai’r trafodaethau gael eu heffeithio gan Brotocol Gogledd Iwerddon, sydd â’r bwriad o osgoi ffin galed gydag Iwerddon ond sydd wedi creu cyfres o rwystrau economaidd sy’n effeithio ar fasnach rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon hefyd.
Dechreuodd trafodaethau rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig yr wythnos hon er mwyn cael gwared ar y tariffau, a gafodd eu gosod gan y cyn-arlywydd Donald Trump.
‘Sefyllfa frys’
“Os nad yw’r Ysgrifennydd Gwladol hyd yn oed yn gallu cadarnhau bod y Prif Weinidog wedi codi’r ffôn ar Arlywydd yr Unol Daleithiau ynglŷn â hyn, onid yw pobol yn iawn i ddod i’r canlyniad bod y Prif Weinidog yn canolbwyntio ar achub ei hun ac nad yw’n poeni am swyddi gweithwyr dur?” meddai Nick Thomas-Symonds yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Iau, Ionawr 20).
Ychwanegodd fod y “sefyllfa yn un frys” oherwydd bod yr Undeb Ewropeaidd wedi “ennill mantais gystadleuol” ar ôl i’r Unol Daleithiau godi’r tariffau ar gyfer gwledydd sy’n aelodau o’r Undeb.
Gofynnodd hefyd a oedd Boris Johnson, yn bersonol, wedi codi’r materion hyn gyda Joe Biden “cyn y trafodaethau hyn”.
“Y gwir yw fod y Prif Weinidog wedi bod â mwy o ddiddordeb mewn achub ei swydd ei hun nag mewn achub swyddi yn y sector dur,” meddai wedyn.
Dywed Stephen Kinnock, yr Aelod Llafur dros Aberafan, mai “ymdriniaeth anniben” Llywodraeth y Deyrnas Unedig o Brotocol Gogledd Iwerddon yw’r rheswm tebygol am yr oedi.
“Fe wnaeth yr Undeb Ewropeaidd sicrhau eithriad cynhwysfawr rhag [adran] 232 o dariffau dur [yr Unol Daleithiau] yn ôl ar Hydref 30 y llynedd,” meddai.
“Rydyn ni yma, bron i dri mis wedyn, a megis dechrau mae’r trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”
‘Hyderus’
Dywed Anne-Marie Trevelyan, Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol San Steffan, ei bod hi wedi bod yn “eithriadol o gadarn” wrth symud y mater yn ei flaen ers iddi ddod i’r rôl.
“Dw i’n falch o ddweud ein bod ni wedi gallu lansio’r trafodaethau hyn ddoe. Mae hi’n bwysig ein bod ni’n rhoi trefn arnyn nhw ac yn cael gwared ar dariffiau diangen a llethol ar y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Ar bob lefel o’r Llywodraeth… rydyn ni wedi bod yn codi hyn gyda’r Unol Daleithiau ac rydyn ni felly wedi cyrraedd pwynt nawr lle rydyn ni’n dechrau gweld y trafodaethau’n symud ar gyflymder.”
“O ystyried y ffaith bod y Prif Weinidog yn chwarae’n llac a sydyn gyda pholisi diogelwch Gogledd Iwerddon, yn arbennig y ffordd mae’n gwneud ei orau i falurio Protocol Gogledd Iwerddon, pa siawns y mae hi’n ei gredu sydd iddyn nhw ollwng y tariffau hyn?” gofynnodd Mark Hendrick, Aelod Seneddol Llafur Preston.
Wrth ateb, dywedodd Anne-Marie Trevelyan y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “gwthio am gytundeb sy’n iawn i ddiwydiant dur y Deyrnas Unedig”.
“Dw i’n hyderus y bydd y gynghrair hirhoedlog rhwng y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau, sydd wedi’i hadeiladu ar hanes cyfoethog o rannu gwerthoedd a masnach rydd a theg, yn sicrhau mai canlyniadau’r trafodaethau fydd y canlyniadau sydd eu hangen ar ddiwydiant y Deyrnas Unedig,” meddai.