Mae Bro Morgannwg ymhlith y llefydd drytaf i fyw yn y Deyrnas Unedig, tra bod Merthyr Tudful ymhlith y lleiaf mwyaf fforddiadwy, yn ôl adroddiad gan Nationwide.

Maen nhw’n dweud bod prynwyr tro cyntaf ledled y Deyrnas Unedig yn wynebu’r tebygolrwydd o dalu chwe gwaith yn fwy na’u cyflog blynyddol i ddechrau dringo’r ysgol eiddo ym 45% o awdurdodau lleol y Deyrnas Unedig.

Mae’r adroddiad yn nodi y gall fod y rhuthr i brynu eiddo yn ystod y pandemig fod wedi cyfrannu at godi prisiau tai fel bod pobol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai mewn ardaloedd gwledig.

Does dim syndod mai yn ardal Kengsington a Chelsea yn Llundain mae’r eiddo lleiaf fforddiadwy, gyda prhynwyr yn talu 15 gwaith yn fwy na’u cyflog am dŷ, tra mai Dwyrain Sir Ayr yn yr Alban yw’r ardal fwyaf fforddiadwy (2.5 gwaith yn fwy na’u cyflog).

Mae’r adroddiad yn defnyddio prisiau tai a chyflogau yn seiliedig ar y flwyddyn 2021 i ddod i gasgliadau ynghylch y farchnad dai.

Yn ôl Andrew Harvey, sy’n economegydd gyda Nationwide, mae cynnydd blynyddol o 17% wedi bod ym mhrisiau tai ym Mro Morgannwg.

“Mae prisiau yn y Fro, sy’n cynnwys y Barri, wedi cynyddu 17% bob blwyddyn, sy’n adlewyrchu tuedd yng Nghymru o dwf prisiau cryfach mewn ardaloedd y tu allan i’r prif ddinasoedd,” meddai.

Dyma’r ardaloedd â’r eiddo lleiaf fforddiadwy, ynghyd â chymhareb pris yn erbyn cyflog:

– Llundain, Kensington a Chelsea, 14.7

– De-ddwyrain Lloegr, Rhydychen, 10.1

– Dwyrain Lloegr, Hertsmere, 10.0

– De-orllewin Lloegr, Cotswold, 8.6

– Dwyrain Canolbarth Lloegr, Rutland, 7.3

– Swydd Efrog a Humber, Ryedale, 7.0

– Gorllewin Canolbarth Lloegr, Bryniau Malvern, 6.8

– Gogledd-orllewin Lloegr, De Lakeland, 6.7

– Cymru, Bro Morgannwg, 6.4

– Yr Alban, Caeredin, 5.9

– Gogledd-ddwyrain Lloegr, Gogledd Tyneside, 4.3

A dyma’r ardaloedd sydd â’r eiddo mwyaf fforddiadwy, ynghyd â chymhareb pris yn erbyn cyflog:

– Yr Alban, Dwyrain Sir Ayr, 2.4

– Gogledd-orllewin Lloegr, Copeland, 2.8

– Gogledd-ddwyrain Lloegr, Sir Durham, 3.1

– Cymru, Merthyr Tudful, 3.4

– Swydd Efrog a Humber, Barnsley, 3.7

– Gorllewin Canolbarth Lloegr, Stoke, 3.8

– Dwyrain Canolbarth Lloegr, Bolsover, 4.0

– Dwyrain Lloegr, Great Yarmouth, 5.0

– De-orllewin Lloegr, Swindon, 5.4

– De-ddwyrain Lloegr, Southampton, 5.6

– Llundain, Bromley, 7.4