Mae brig y don o achosion Omicron wedi pasio, meddai Mark Drakeford, wrth roi diweddariad ar gyfyngiadau Covid-19 Cymru heddiw.
O heddiw yng Nghymru, bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored, ac ni fydd cyfyngiadau o ran faint fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
Bydd y rheol chwe pherson a’r angen i gadw pellter yn cael eu dileu ar gyfer lletygarwch awyr agored.
Mae disgwyl i glybiau nos ailagor, ac i bellter cymdeithasol a’r rheol chwech gael eu dileu mewn lleoliadau lletygarwch dan do ymhen wythnos, ar Ionawr 28.
Er bod y gwaethaf drosodd, roedd Mark Drakeford yn pwysleisio bod coronafeirws yn dal i ledaenu yng nghymunedau Cymru.
Sefyllfa bresennol
Mae 500 achos o Covid-19 i bob 100,000 person yng Nghymru erbyn hyn, sy’n debyg i’r lefelau a welwyd cyn i Omicron gyrraedd, meddai Mark Drakeford.
Pwysleisiodd bod rhaid cofio bod lefelau uchel o heintiadau’n parhau yng nghymunedau’r wlad, a bod rhaid cymryd gofal gyda’r ystadegau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gan eu bod nhw’n dangos profion PCR positif yn unig.
Er hynny, mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gadarnhaol hefyd, ac yn yr wythnos hyd at 15 Ionawr roedd yr amcangyfrifon yn dangos bod tua un ymhob 25 person â Covid-19 yng Nghymru.
Mae dros 1,000 o bobol yn yr ysbyty â Covid-19 ar y funud, ac er bod cyfraddau absenoldebau ac hunanynysu ymhlith gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd wedi gostwng, mae 7.3% o’r gweithlu’n absennol, meddai’r Prif Weinidog.
Er bod y sefyllfa i weld yn gwella, dywedodd Mark Drakeford ei fod am ddal ati i lacio cyfyngiadau’n raddol, gam wrth gam, yn hytrach na chodi’r holl gyfyngiadau ar unwaith, fel bod posib parhau i fonitro’r data.
“Rydyn ni’n gwybod bron ers dechrau’r pandemig bod gwneud pethau tu allan yn llai peryglus na gwneud pethau tu mewn,” meddai Mark Drakeford.
“Dyna pam ein bod ni wedi gweithredu ar weithgareddau a digwyddiadau tu allan heddiw, ac y byddwn ni’n aros wythnos arall er mwyn bod yn sicr ei bod hi’n ddiogel i godi’r cyfyngiadau tu mewn.”
“Amhosib gweld y dyfodol”
Gwrthododd y Prif Weinidog osod dyddiad ar gyfer pryd y gellir cael gwared ar gyfyngiadau sy’n rhan o lefel rhybudd sero, megis yr angen i wisgo mygydau a chadw pellter cymdeithasol.
Wrth ateb cwestiwn yn holi a fydd e’n gosod dyddiad, dywedodd: “Na, wna i ddim, oherwydd Prif Weinidog Cymru ydw i, nid ysgrifennydd horosgops ar gyfer papur newydd dyddiol.
“Mae hi’n amhosib, yn syml, i unrhyw un ddarogan y dyfodol o ran coronafeirws gyda phendantrwydd.
“Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru eisiau codi’r lefelau o amddiffynfeydd rydyn ni’n byw â nhw mor sydyn a diogel â phosib.
“Rhywle yn y byd heddiw gallai’r amrywiolyn nesaf o coronafeirws fod yn ffurfio.
“Pan mae pobol yn sôn am Ddiwrnod Rhyddid, a gwneud pethau heb opsiwn i droi’n ôl, dw i’n meddwl eu bod nhw’n mynd yn groes i ffeithiau’r pandemig byd-eang hwn.
“Ydw i am gynnig set o ddyddiadau artiffisial, gan edrych i’r dyfodol heb fy mod i na neb arall yn gallu gwybod beth fydd yr amgylchiadau ar y pryd?
“Dw i ddim yn mynd i wneud hynny.”
Hunanynysu
Dywedodd Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried a ddylid gostwng y cyfnod hunanynysu o saith niwrnod i bump ar gyfer pobol sydd wedi’u brechu’n llawn.
“Rydyn ni wedi cael adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe yn edrych ar y dystiolaeth,” meddai.
“Fe fydd y Prif Swyddog Meddygol yn ystyried hwnnw ac yn rhoi ei gyngor i ni.”
Mae grŵp gwyddonol TAC y llywodraeth hefyd yn cwrdd heddiw i drafod yr un pwnc, meddai.
“Fe fydd gan weinidogion y cyngor yna erbyn dechrau’r wythnos nesaf ac yna fe fyddan ni’n edrych ar wneud penderfyniad.”
Mae Boris Johnson wedi awgrymu y gallai’r orfodaeth ar bobol i hunanynysu ddod i ben yn gyfan gwbl ar 24 Mawrth, ac mae’r awgrym yn un “rhyfedd” meddai Mark Drakeford.
“Mae’n rhaid imi ddweud fy mod i’n ei weld yn awgrym anodd iawn i’w ddilyn, dw i ddim yn meddwl ei fod yn benderfyniad. Dw i’n meddwl ei fod e’n un o’r pethau gafodd eu taflu allan er mwyn creu pennawd.
“Os ydych chi’n rhyddhau pobol yn gwybod eu bod nhw’n heintus, yn gwybod eu bod nhw am heintio pobol eraill, yna dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth rhyfedd iawn, iawn i’r llywodraeth benderfynu ei wneud.
“Mae profi ac hunanynysu wedi bod yn rhan bwysig iawn, iawn o’r ffordd rydyn ni wedi trio atal y gwaethaf rhag digwydd gyda choronafeirws. Byddwn i angen lot fawr o berswâd ein bod ni mewn sefyllfa mor ddiogel ein bod ni’n gallu fforddio cael gwared ar yr amddiffynfa honno.”
Profion am ddim
Does gan Lywodraeth Cymru ddim cynlluniau i godi tâl am brofion llif unffordd, meddai Mark Drakeford.
Mae Cymru mewn safle da o ran cyflenwad, meddai, a phenderfyniad i’w wneud ar y cyd â phedair gwlad y Deyrnas Unedig fyddai rhoi’r gorau i’w cynnig nhw am ddim.
Roedd adroddiadau wedi awgrymu bod gweinidogion San Steffan yn bwriadu cyfyngu ar brofion am ddim yn y dyfodol.
“Mae penderfyniadau ariannu yn cael eu gwneud gan y pedair gwlad ar y cyd, mae’n bwysig i mi bwysleisio hynny,” meddai Mark Drakeford.
“Dyw hwn ddim yn benderfyniad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei wneud ar ei liwt ei hun, ac yna ei gyhoeddi i’r gweddill ohonom.”
Ychwanegodd nad yw wedi gweld awgrym gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod nhw’n awyddus i godi tâl am brofion.
Bydd yr adolygiad nesaf o’r rheolau covid yn digwydd ar 10 Chwefror, mewn tair wythnos, a bryd hynny bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried a oes angen cadw mesurau megis pasys covid a’r orfodaeth i wisgo mygydau mewn mannau cyhoeddus megis siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus.