Ar drothwy Dathlu Dydd Santes Dwynwen, mae’r llwybrau cerdded mwyaf rhamantus yng Nghymru wedi cael eu henwi.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, sy’n gofalu am filltiroedd o lwybrau cerdded ledled y wlad, wedi awgrymu’r llwybrau i’r rhai sy’n awyddus i ddathlu’r diwrnod ddydd Mawrth nesaf, 25 Ionawr.
Y llwybr mwyaf rhamantus ar y rhestr yw’r un ym mhentref Porthdinllaen ger Nefyn ar Benrhyn Llŷn, gyda golygfeydd godidog o Fae Caernarfon a mynyddoedd Yr Eifl pan mae hi’n braf.
Yn y gogledd ddwyrain, mae cariadon yn cael eu hannog i droedio o gwmpas parc Erddig ger Wrecsam ac ymhyfrydu yn y gerddi crand o amgylch y plasty.
Neu i’r cyplau cariadus yng ngorllewin Cymru, mae’r Ymddiriedolaeth yn awgrymu sawl un o draethau Sir Benfro a Cheredigion ar gyfer tynnu llun calon yn y tywod.
Yr unig lwybr o dde Cymru ar y rhestr yw Gerddi Dyffryn, sydd wedi eu lleoli o gwmpas plasty ym Mro Morgannwg, ddim yn bell o Gaerdydd.
Dydd Santes Dwynwen
Bob blwyddyn, mae Dydd Santes Dwynwen yn gyfle i gofio nawddsant cariadon Cymru a oedd yn fyw yn ystod y bumed ganrif.
Yn ôl y chwedl, cafodd Dwynwen ei cham-drin gan ei chariad Maelon, ac yn dilyn hynny, dihangodd hi i Ynys Môn a sefydlu eglwys yn Llanddwyn, lle bu iddi fyw heb gariad am weddill ei hoes.
Mae Llanddwyn yn cael ei ystyried yn un o’r llefydd mwyaf rhamantus yng Nghymru hefyd, ond dydy’r Penrhyn ddim yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac felly ddim ar eu rhestr.
Dyma’r rhestr yn llawn (gyda phwt gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am bob lleoliad):
1 Porthdinllaen, Pen Llŷn
“Pentref pysgota perffaith yn sefyll ar draeth tywodlyd sy’n gyfoeth o hanes, golygfeydd godidog a bywyd gwyllt ffyniannus. Mae ei leoliad anghysbell a’i olygfeydd o Fôr Iwerddon yn cynnig swyn o ramant.”
2 Erddig, Wrecsam
“Byddwch yn dod o hyd i ramant draddodiadol yn Erddig, ac yn camu yn ôl-troed y cariadon ifanc Lucy Hitchman ac Ernest Jones a oedd yn gweithio yn Erddig fel gwas a morwyn ar drothwy’r Rhyfel Byd Cyntaf. Gwnaethant ddisgyn mewn cariad a cherdded o gwmpas y parc gyda’i gilydd ambell i brynhawn.”
3 Beddgelert, Eryri
“Pentref yw Beddgelert wedi nythu yng nghanol Eryri ac mae’n lle perffaith i gael dihangfa ramantus. O’r giât fochyn ger yr afon, dilynwch olygfeydd o’r mynyddoedd i ddod o hyd i fedd Gelert, a dysgu am chwedl boblogaidd helgi ffyddlon Tywysog Llywelyn. Mae’r gylchdaith hon yn eich arwain drwy goedwig hynafol nes cyrraedd ceunant trawiadol Aberglaslyn a dod yn ôl i bentref bach Beddgelert.”
4 Stagbwll, Sir Benfro
“Treuliwch amser gwerthfawr gyda’ch gilydd yn Sir Benfro. Ewch â rhywun arbennig am antur drwy Byllau Lili Llanfihangel-clogwyn-gofan i ddistawrwydd Bae Barafundle. Crwydrwch ar hyd yr arfordir gan edrych i lawr ar y tonau, ac os oes gennych eiliad, dotiwch ar y machlud ar hyd Traeth Aberllydan ar eich ffordd yn ôl.”
5 Gardd Bodnant, Conwy
“Dewch i fwynhau Gardd Bodnant, gardd o safon fyd-eang yng ngogledd Cymru, gyda rhywun arbennig. Gadewch i’ch calon eich tywys ar daith aeafol o gwmpas y gerddi dan ganghennau troellog y Bwa Tresi Aur. Ymlwybrwch at y terasau rhosod i gael mwynhau’r ardd fyd-enwog drwy gromen olygfa banoramig ramantus.”
6 Gerddi Dyffryn, Caerdydd
“Cerddwch law yn llaw drwy olygfeydd a mannau clyd heb eu hail yng Ngerddi Dyffryn. Edmygwch yr ardd synhwyraidd ac ymlwybrwch drwy’r tŷ gwydr sy’n orlawn o flodau ar eu gorau fydd yn eich hudo i fyd arallfydol.”
7 Castell Powys, Y Trallwng
“Mae Cymru’n enwog am ei chestyll, ac mae Castell Canoloesol Powis sy’n eistedd yn uchel ar graig ac yn cysgodi terasau gerddi byd-enwog a golygfeydd eang ar draws y parc ceirw, yn sicr o’ch plesio. Boed yn haf neu’n aeaf, mae’r gerddi’n edrych ar eu gorau bob amser, ac yn cael eu gwarchod gan labrinth o wrychoedd ywen tocweithiol uchel. Ewch ar grwydr rhamantus ger y borderi blodau ffurfiol a cherfluniau plwm i ddod o hyd i feinciau unig wedi’u cuddio dan fwâu mawr y gwrych sgwâr er mwyn eistedd yng nghesail eich cariad ar ddiwrnod gaeafol.”
8 Mwnt, Ceredigion
“Os ydych chi a’ch anwylyd yn mwynhau bywyd gwyllt, mae Mwnt yn draeth bychan hardd cuddiedig ac yn un o’r lleoedd gorau yng Ngheredigion i ddod o hyd i ddolffiniaid trwynbwl. Paciwch eich sbienddrychau a pharatowch bicnic i ddau, ewch i gerdded heibio’r eglwys wyngalchog fach (sy’n cynnal sawl priodas) i ben Moel y Mwnt i weld a allwch gael cipolwg o ddolffiniaid a all fod yn nofio, chwarae ac yn bwydo yn y bae islaw. I gyrraedd y traeth, dilynwch yr arwyddion ar y llwybrau lleol sy’n rhan o Lwybr Arfordirol Cymru.”
9 Rhosili, Y Gŵyr
“Does dim yn fwy rhamantus na cherdded law yn llaw ar hyd y traeth yn gwylio’r machlud. Rhosili yw’r traeth hiraf yng Nghymru, ac mae’n cynnwys morlin dramatig, llongddrylliadau a golygfeydd o ben y graig. Cofiwch ddod yn ôl yn ystod yr haf i grwydro drwy’r caeau o flodau gwylltion gyda golygfa hardd o Ynys Weryn yn y cefndir.”
10 Penrhyn Dewi, Sir Benfro
“Mae Penrhyn Dewi yn llecyn agored ac yn nannedd y gwynt. Roedd unwaith yn fan pererindod hanesyddol a heddiw mae’n lle perffaith i ramantwyr fwynhau traethau anghysbell a bythynnod clyd dros benwythnos. Enwyd Penmaen Dewi ar ôl nawddsant Cymru, a bu’n safle diwylliannol poblogaidd ers miloedd o flynyddoedd, yn ogystal â man delfrydol i’r rhai sy’n mwynhau gwylio adar.”