Byddai goblygiadau “hollol enbydus” pe bai Rwsia’n ymosod ar yr Wcráin, yn ôl Cwnsler Cyffredinol Cymru.

Mae teulu Mick Antoniw, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Bontypridd, yn hanu o’r Wcráin ac mae ganddo berthnasau yno sy’n “bryderus iawn” yn sgil y tensiynau yn nwyrain Ewrop.

Bydd y Deyrnas Unedig yn gyrru milwyr i amddiffyn cynghreiriaid yn nwyrain Ewrop pe bai ymosodiad, meddai Boris Johnson heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25).

Dydy’r Wcráin heb ofyn am filwyr, ond mae Mick Antoniw yn dweud y dylai pob gwlad gynnig cymorth meddygol a logistaidd iddyn nhw, a chyfrannu arfau amddiffynnol.

Mae sancsiynau’n bwysig iawn, o bosib fel ffordd o atal Putin rhag ymosod, meddai, gan ychwanegu bod pa mor effeithiol ydyn nhw’n dibynnu ar sut sancsiynau ydyn nhw.

Rhybuddiodd Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, ddoe (dydd Llun, Ionawr 24) y byddai ymosodiad yn “fusnes poenus, treisgar, a gwaedlyd”, ond dywedodd Volodymyr Zelenskyy, Prif Weinidog yr Wcráin, yn hwyr neithiwr (nos Lun, Ionawr 24) fod y sefyllfa dan reolaeth, ac nad oes angen mynd i banig.

‘Trychineb dynol’

Dydy panig yn helpu dim yn y sefyllfa hon, yn ôl Mick Antoniw.

“Mae Llywodraeth yr Wcráin yn amlwg yn poeni’n fawr na ddylid gyrru negeseuon yn dweud y dylai pobol fod yn panicio nes bod dealltwriaeth well ynghylch beth sydd am ddigwydd,” meddai wrth golwg360.

“Ond allwn ni ddim osgoi’r ffaith fod pobol yn bryderus iawn.

“Dw i wedi bod yn siarad ag aelodau o’r teulu heddiw sy’n byw tua dwyrain Wcráin, rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ac maen nhw’n amlwg yn bryderus iawn, oherwydd mae goblygiadau ymosodiad ar raddfa fawr gan Rwsia yn hollol enbydus.

“Mae potensial ar gyfer trychineb dynol, sydd ddim yn effeithio ar yr Wcráin yn unig ond a fydd yn dirgrynu dros Ewrop i gyd yn sylweddol iawn, iawn.

“Gobaith pawb yw y byddwn yn osgoi rhyfel.

“Y realiti yw, os bydd ymosodiad yna mi fydd rhyfel, a bydd gwrthsefyll. Bydd yna drychineb economaidd a chymdeithasol anferth, yn ogystal â lot o golli gwaed.”

Hanes yr Wcráin

Mae Mick Antoniw yn siarad iaith y wlad, a daeth ei dad i’r Deyrnas Unedig fel ffoadur o’r Wcráin yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

“Mae hon yn wlad sydd wedi dioddef lot fawr o golli gwaed yn ystod pob cenhedlaeth bron, deuddeg miliwn wedi marw yn ystod yr Ail Ryfel Byd, chwe miliwn yn ystod y newyn.

“Mae hi’n wlad sydd wedi arfer â thrychinebau, ond dw i’n meddwl ei bod hi’n obaith gan y cenedlaethau newydd y byddai hynny’n cael ei osgoi.

“Dw i’n meddwl mai’r drafferth sydd gan lot o bobol yw deall rhesymeg Putin, ei fod e eisiau ymosod, o bosib, a chymhathu’r Wcráin [gyda Rwsia].”

“Mae hyn yn ymwneud â gweledigaeth Putin am Rwsia fwy, mae hyn i gyd yn ymwneud ag ail-greu’r hen ymerodraeth Rwsieg.

“Dyna beth mae Putin wedi ysgrifennu amdano yn ei draethodau, nad yw’n cydnabod yr Wcráin fel cenedl ar wahân na chenedl sydd â hawl i sofraniaeth.

“Dyna’r rhesymeg hollbwysig, waelodol sy’n ysgogi Putin ar y funud.”

‘Cynamserol’

Mae rhai o ddiplomyddion y Deyrnas Unedig yn y llysgenhadaeth yn yr Wcráin wedi cael eu tynnu oddi yno, ac mae hynny’n gam “cynamserol” ac “annefnyddiol”, yn ôl Mick Antoniw.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod yn ddefnyddiol, a dw i ddim yn meddwl ei fod yn anfon y neges iawn,” meddai.

“Mae’n well o lawer gen i’r agwedd gan gynrychiolwyr yr Undeb Ewropeaidd yn Kyiv, nad ydyn nhw’n bwriadu cymryd unrhyw gamau.

“Dw i’n meddwl ei fod yn gynamserol ac annoeth, ac yn anfon y neges hollol anghywir.”

Sancsiynau

Mae Boris Johnson wedi galw ar gynghreiriaid Ewropeaidd i fod yn barod i gyflwyno sancsiynau yn erbyn Rwsia pe bai’r wlad yn ymosod ar yr Wcráin.

Pe bai gwledydd gorllewinol yn uno, byddai’n helpu i atal Rwsia rhag ymosod, meddai.

Dywed Mick Antoniw fod hynny’n “dibynnu beth mae’n ei feddwl wrth ‘sancsiynau economaidd’”.

“Mae Rwsia wedi cael lot o brofiad gydag osgoi sancsiynau,” meddai.

“Dyw’r sancsiynau gafodd eu gosod ar ôl iddyn nhw gymryd y Crimea a rhannau o ddwyrain yr Wcráin tua wyth mlynedd yn ôl heb fod yn effeithiol iawn.

“Y gwendid mawr gyda sancsiynau’r gorllewin yw’r ymraniad, yr ymraniad sy’n bodoli o ochr yr Almaen sydd â mwy o ddiddordeb mewn sicrhau cyflenwad o nwy rhad.

“Mae’r ffaith fod gwledydd gorllewinol wedi dod yn ddibynnol, i ryw raddau, ar nwy Rwsia wedi eu gwneud nhw’n agored i niwed.

“Roedd hyn yn rhagweladwy iawn.”

Byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn caffael neu rewi asedau oligarchiaid Rwsieg mewn llefydd fel Llundain pe baen nhw am gyflwyno sancsiynau gwirioneddol effeithiol.

“Mae sancsiynau’n bwysig iawn, o bosib fel ffordd o atal Putin rhag ymosod,” meddai.

“Mae Llundain wedi dod yn ganolfan gwyngalchu arian.

“Mae arian Rwsieg wedi bod yn llifo drwy’r Blaid Geidwadol, ac mae hi’n ymddangos fel bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn siarad am fesurau cryf ar un llaw, ond yn amharod i weithredu mewn ffyrdd fyddai’n cael effaith wirioneddol ar Rwsia – a hynny fyddai holl asedau ariannol rhain sydd wedi’u cuddio a’u gwyngalchu sydd wedi’u claddu mewn dinasoedd fel dinasoedd.”

Cymorth

Mae Boris Johnson wedi rhybuddio y bydd y Deyrnas Unedig yn anfon milwyr i amddiffyn cynghreiriaid yn nwyrain Ewrop petai Rwsia yn ymosod.

Wrth ystyried pa fath o gymorth y gallai gwledydd fel y Deyrnas Unedig ei roi i’r Wcráin, dywed Mick Anontiw y dylai pob gwlad roi cefnogaeth feddygol a logistaidd, yn ogystal ag arfau amddiffynnol.

“I ddechrau, dyw’r Wcráin ddim yn aelod o NATO, a dydyn nhw ddim yn gofyn i filwyr NATO fynd i mewn i’r Wcráin i ymladd,” meddai.

“Yr hyn mae’r Wcráin yn gofyn amdano yw arfau fyddai’n caniatáu iddyn nhw amddiffyn eu hunain yn well.

“O ran y Deyrnas Unedig a’i rôl o fewn NATO, yna wrth gwrs, prif ffocws NATO ar y funud yw ategu at yr amddiffynfeydd mewn gwledydd sy’n rhan o NATO, felly’r holl wledydd o amgylch yr Wcráin.

“Does dim amheuaeth fod yr Wcráin yn cael eu gadael fel y piggy in the middle, sydd wastad wedi bod yn wendid geo-wleidyddol i’r wlad – ei bod hi reit ynghanol y lluoedd sy’n gwrthwynebu ei gilydd.

“Beth ddylai’r Deyrnas Unedig, a phob gwlad, ei wneud yw rhoi cymorth i’r Wcráin o ran cefnogaeth feddygol, cefnogaeth logistaidd, ac o ran y math o arfau amddiffynnol sydd ei angen ar yr Wcráin.”