Mae Ceidwadwr blaenllaw yng Nghymru yn mynnu nad nawr yw’r cyfnod gorau am etholiad arweinyddol, gan ystyried y gwrthdaro posib yn yr Wcráin.

Daw hyn wrth i Cressida Dick, Comisiynydd Heddlu Llundain, gyhoeddi y bydd y llu yn ymchwilio i’r honiadau am bartïon yn Rhif 10 Downing Street yn ystod y cyfnodau clo.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd Stephen Crabb, cyn-Ysgrifennydd Cymru, yn feirniadol o Boris Johnson gan ddweud bod etholwyr wedi cael eu “siomi’n wirioneddol” gan adroddiadau o “achosion amlwg o dorri’r cyfyngiadau”.

Ar y pryd, sylwadau Aelod Seneddol Ceidwadol Preseli Penfro oedd y rhai mwyaf beirniadol i ddod gan yr un o aelodau seneddol Ceidwadol Cymru.

Ond heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25), mae’n mynnu bod angen i’r ymchwiliadau barhau ac i fod yn fodd “o dynnu llinell o dan y partïon”.

“I fi, fy etholwyr a nifer o fy nghyd-weithwyr, y peth pwysicaf yw sut rydyn ni’n tynnu llinell o dan hyn oll, a dim ond dwy ffordd sydd o wneud hynny,” meddai.

“Y gyntaf yw’r ymchwiliad sy’n cael ei arwain gan Sue Gray, ac mae gen i hyder yn y gwaith mae’n ei wneud ar hynny, a’r llall yw ymchwiliad yr heddlu.

“Pan fo cyhuddiadau o bobol yn torri’r gyfraith, byddech yn disgwyl i’r heddlu ymchwilio, dyna’r unig obaith o symud ymlaen.

“Ond dydy’r cyhuddiad neithiwr heb fy siomi cymaint â’r datguddiad mwyaf yn sôn am Downing Street yn cael ei throi’n glwb nos ar noswyl angladd Dug Caeredin. Roedd hynny, i mi, yn boenus.”

Dywed y Comisiynydd, y Fonesig Cressida Dick, fod yr heddlu’n ymchwilio i “achosion posib o dorri rheoliadau Covid-19” yn Downing Street a Whitehall ers 2020.

Ymateb Downing Street

Dywedodd Boris Johnson wrth Dŷ’r Cyffredin ei fod yn croesawu’r ymchwiliad, gan y byddai’n “rhoi’r eglurder sydd ei angen ar y cyhoedd” ynghylch yr honiadau.

Yn ôl llefarydd ar ei ran, dydy’r Prif Weinidog ddim yn credu ei fod wedi torri’r gyfraith.

Daw hyn ôl i dîm ymchwiliad Swyddfa’r Cabinet, dan arweiniad y gwas sifil Sue Gray, drosglwyddo gwybodaeth i’r llu.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Stephen Crabb fod yr ymchwiliad “wedi’i gyfyngu i rai materion” ac efallai na fydd mor “drylwyr ag y mae rhai ei eisiau”.

Ond heddiw, mynnodd Stephen Crabb fod angen “cefnogi capten y tîm” ac nad yw’n bwriadu rhoi llythyr o ddiffyg hyder i gadeirydd Pwyllgor 1922, Syr Graham Brady.

Fe ddywedodd nad dyma’r cyfnod cywir i gynnal etholiad ar gyfer yr arweinyddiaeth, gan ystyried y posibilrwydd o wrthdaro yn yr Wcráin.

‘Cymru’n caru cyfnodau clo’

“Mewn ardaloedd lle mae Llafur mewn grym, yng Nghymru er enghraifft, maen nhw’n caru cyfnodau clo,” meddai Stephen Crabb wrth drafod cyfyngiadau Covid a’r amrywiolyn Omicron.

“Eu hymateb nhw i gyfnod clo oedd gwneud gweithio yn eich gweithle yn drosedd gan gyflwyno dirwyon.

“Fe wnaethon nhw wahardd Parkruns heb dystiolaeth wyddonol yn sail iddo.

“Pe bai Llafur wedi bod mewn grym yn San Steffan, mae’n sicr y bydden ni’n dal mewn cyfnod clo.”

San Steffan

Ceidwadwyr blaenllaw yng Nghymru’n amau dyfodol Boris Johnson

Mae Stephen Crabb AS Preseli Penfro ac Is-Gadeirydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru’n cwestiynu sut y gall y Prif Weinidog barhau wrth y llyw