Gallai tair ysgol gydol oes cyfrwng Cymraeg gael eu sefydlu ym Mhowys fel rhan o strategaeth newydd y cyngor sir ar gyfer addysg Gymraeg.
Mae uchelgais hefyd i gynyddu nifer y siaradwyr sydd ym mlwyddyn gyntaf ysgolion o 22.6% yn 2020/21 i 36% erbyn 2032.
Yn ystod cyfarfod Cabinet Cyngor Sir Powys heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25), fe wnaeth y pennaeth trawsnewid a chyfathrebu Emma Palmer egluro i’r aelodau bod y syniad wedi ei godi ar fyr rybudd yn dilyn cyfarfod craffu yn gynharach yn yr wythnos.
Fe gafodd dechrau’r cyfarfod ei ohirio am hanner awr i alluogi’r aelodau i ddarllen yr adroddiad newydd gyda sylwadau gan y pwyllgor craffu.
Tair ysgol gydol oes
Yn ystod y cyfarfod, dywedodd Emma Palmer fod sawl un wedi herio’r cynlluniau blaenorol ar gyfer Strategaeth y Gymraeg mewn Addysg yng nghyfarfod y pwyllgor craffu ddoe (dydd Llun, Ionawr 24).
“Roedd yna ymholiad o ran rhag-benderfyniad posib ar gyfer prosesau sydd ar y gweill ar hyn o bryd,” meddai.
“Un ystyriaeth fyddai cynnig tair ysgol gydol oes cyfrwng Cymraeg yn y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg fel ffordd ymlaen.”
Roedd y pwyllgor wedi penderfynu y byddai’n rhaid cryfhau’r cynllun strategol, ac fe gafodd diwygiadau eu gwneud yn dilyn y cyfarfod hwnnw a’u cwblhau erbyn y cyfarfod heddiw.
Doedd y swyddogion ddim wedi enwi lle maen nhw’n bwriadu gweithredu’r cynlluniau hynny.
‘Croeso i ddiwylliant Cymru a’r iaith’
Mae’r Cynghorydd Myfanwy Alexander, yr Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion, y Gymraeg, Cyfathrebu ac Ymgysylltu, yn croesawu’r newyddion.
“Dydd Santes Dwynwen hapus i bawb,” meddai wrth agor.
“Rwyf wedi derbyn yr anrheg orau, sef y ddogfen hon o’n blaenau ni heddiw.
“Mae’n ddogfen hanesyddol ac yn adlewyrchu uchelgais y Cabinet hwn ar gyfer y Gymraeg.
“Rydw i eisiau anfon neges arbennig Santes Dwynwen at yr holl deuluoedd sydd wedi dod i fyw i Bowys yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Rwy’n dweud croeso i Bowys, croeso i Gymru a chroeso i ddiwylliant Cymru a’r iaith sydd yma i’ch plant.”
Cynigiodd hi gwrdd ag unrhyw un sydd â chwestiynau am yr iaith Gymraeg, diwylliant, a hanes Cymru am sgwrs dros gwrw neu baned.
Cafodd y ddogfen ei chymeradwyo yn unfrydol gan gynghorwyr y Cabinet.
Bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd y mis, ac os caiff ei gymeradwyo, bydd yn dod i rym ym mis Medi.
Mae rhai o uchelgeisiau eraill y cynllun strategol yn cynnwys:
- mwy o blant meithrin (tair oed) yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg
- mwy o blant dosbarth derbyn (pump oed) yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg
- mwy o blant i barhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o’u haddysg statudol i un arall.
- mwy o ddisgyblion i astudio ar gyfer cymwysterau sy’n cael eu hasesu yn y pwnc Cymraeg, ac unrhyw bynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.
- mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol
- cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
- cynyddu nifer y staff addysgu sy’n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.