Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn galw am sefydlu clinigau Covid hir arbenigol ar gyfer plant ac oedolion yng Nghymru.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd fod prinder clinigau’n golygu bod mwy a mwy o bobol yn talu’n breifat am driniaeth feddygol.

Galwodd Adam Price ar y Llywodraeth ar lawr y siambr i “ailystyried ei dull gweithredu”.

Dydy Mark Drakeford ddim yn “argyhoeddedig” mai canolfannau arbenigol yw’r ateb cywir i Gymru.

Ar lawr y siambr heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25), dywedodd Adam Price fod “60,000 o’n pobol yn byw gyda Covid hir ac nid oes un clinig arbenigol ar gael iddynt yng Nghymru, gan orfodi llawer i fynd yn breifat”.

“Byddai hynny’n anghywir beth bynnag ond mae’n arbennig o anghywir pan fydd ffigurau’n dangos bod Covid hir ddwywaith mor gyffredin ymhlith pobol sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig,” meddai.

“Dyma pam mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ailystyried ei dull gweithredu a sefydlu’r clinigau arbenigol y mae cleifion ac arbenigwyr meddygol yn rhyngwladol yn galw amdanynt.

“Yn fwy na hynny, rydym yn gwybod fod amcangyfrifon rhyngwladol yn awgrymu bod rhwng 10-20% o blant sy’n contractio Covid-19 yn datblygu Covid hir pediatrig.

“Os nad yw Llywodraeth Cymru yn barod i sefydlu clinigau arbenigol ar gyfer oedolion, dylai o leiaf fod yn barod i wneud hynny ar gyfer plant y mae eu bywydau cyfan mewn perygl o gael eu dychryn os nad ydynt yn cael diagnosis cyflymaf posibl a’r cyngor a’r driniaeth feddygol orau yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf.

“Yn sicr, ar ôl yr hyn y mae’r genhedlaeth hon o bobol ifanc wedi mynd drwyddo, onid ydynt yn haeddu dim llai?”

Yn ôl astudiaeth ddiweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae mwy o achosion o Covid hir mewn pobol rhwng 35 a 69 oed, menywod, pobol sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, y rhai sy’n gweithio ym maes gofal iechyd, gofal cymdeithasol, neu addysg a’r rhai sydd â chyflwr iechyd neu anabledd arall sy’n cyfyngu ar weithgareddau.

Anfanteision

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford fod “llawer o anfanteision i’r strategaeth honno”.

“Nid oes gennyf y dystiolaeth y mae’r Aelod yn cyfeirio ati; Nid wyf yn gwybod beth mae’n ei olygu gan lawer o bobol sy’n mynd yn breifat, ac yn sicr nid wyf yn cydnabod y farn mai cleifion yn gyffredinol nad meddygon teulu yw’r bobol iawn i ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnynt,” meddai.

“Mae’r canolfannau yn Lloegr wedi eu llethu erbyn hyn.

“Felly, nid yw sefydlu canolfan yn cael ei gwarantu o bell ffordd i ddarparu’r ateb sydd ei angen ar gleifion.”

Fe wnaeth hefyd wrthod galwadau Adam Price dros wneud Covid hir yn glefyd galwedigaethol a fyddai’n golygu bod person sydd wedi dal Covid hir fel clefyd cronig yn y gweithle fod â’r hawl i fynnu am iawndal.

“Dyna’r drefn mewn wyth gwlad arall yn Ewrop yn ogystal ag yng Nghanada a De Affrica, ac y dylai’r rhai sydd wedi dal Covid hir fel clefyd cronig ddod i gysylltiad â’r gwaith fod â hawl i gael iawndal,” meddai.

Atebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford na fyddai hynny’n “fater i Weinidogion, rwy’n credu, i wneud penderfyniad o’r fath heb y cyngor y byddai ei angen arnynt, ac nid wyf wedi gweld unrhyw gyngor yn uniongyrchol o’r math hwnnw.”