Bydd pobol sydd wedi cael prawf Covid-19 positif yn cael rhoi’r gorau i hunanynysu ar ôl pum niwrnod llawn os ydyn nhw wedi cael dau brawf llif unffordd negyddol, yn ôl rheolau diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, rhaid i’r ddau brawf llif unffordd negyddol gael eu cymryd ar ddau ddiwrnod yn olynol, ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech o’r cyfnod hunanynysu.
Bydd rhaid i unrhyw un sy’n profi’n bositif ar ddiwrnod pump neu ar ddiwrnod chwech barhau i hunanynysu hyd nes y byddan nhw wedi cael dau brawf negyddol o fewn 24 awr, neu hunanynysu tan ddiwrnod 10, pa un bynnag ddaw gyntaf.
Daw’r newidiadau hyn ar ôl archwiliad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a byddan nhw’n dod i rym o Ionawr 28, pan fo disgwyl i Gymru symud i lefel rhybudd sero.
‘Effaith negyddol’
“Hunanynysu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal y feirws rhag lledaenu a tharfu ar ei drosglwyddiad,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
“Ond gall hunanynysu am gyfnodau hir gael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl a gall fod yn niweidiol i’n gwasanaethau cyhoeddus a’r economi ehangach.
“Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn ofalus, rydym yn credu y bydd profi ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech, ynghyd â hunanynysu am bum diwrnod llawn yn cael yr un effaith amddiffynnol â chyfnod hunanynysu o 10 diwrnod.
“Ond mae’n bwysig iawn bod pawb yn hunanynysu ac yn defnyddio profion llif unffordd fel y cynghorir i sicrhau eu bod yn diogelu eraill rhag y risg o haint.
“Mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn rhagorol yng Nghymru drwy gydol y pandemig ac fe hoffem ddiolch i bawb am weithio gyda ni i ddiogelu Cymru.
“Mae’r pigiadau atgyfnerthu wedi lleihau’r tebygolrwydd o achosion difrifol o’r feirws a’r angen i dderbyn unigolion i’r ysbyty felly rwy’n annog unrhyw un sydd heb gael eu brechu i fanteisio ar y cynnig o frechlyn.”
“Newyddion da”
“Mae hyn yn newyddion da iawn, ond mae’n bwysig deall yn awr beth sydd angen digwydd i ddod â’r cyfnod hunanynysu hwn i ben – sut mae Llywodraeth Cymru yn asesu hyn, pa sgyrsiau sy’n digwydd, a pha feini prawf y bydd angen eu bodloni er mwyn cyrraedd y garreg filltir bwysig hon?” meddai Rhun ap Iorwerth AoS, llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal.
“Yn y cyfamser, mae’n rhaid i ni barhau i weld mesurau effeithiol i leihau trosglwyddo cymunedol ymhellach ac i greu mwy o wytnwch hirdymor, gan gynnwys mwy o weithredu ar aer glân mewn ysgolion, annog mwy o bobl i fanteisio ar y brechlyn, a sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal yn cael y cymorth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt,” ychwanegodd.
“Gemau gwleidyddol”
Dywedodd Russell George AoS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd a Gofal: “Gyda’r pigiad atgyfnerthu mor ddatblygedig, a’r angen i gadw lefelau staffio gwasanaethau cyhoeddus yn uchel, a’r awydd cynyddol i symud i bwynt lle rydym yn byw gyda’r feirws, mae’r amser ar gyfer lleihau’r cyfnod hunanynysu heb os wedi dod.
“Yn anffodus, fel sydd wedi digwydd drwy gydol y pandemig gyda’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd, maen nhw’n ailadrodd penderfyniadau Llywodraeth Geidwadol y DU ond dim ond ar ôl chwarae gwleidyddiaeth, cwestiynu a thanseilio newidiadau o’r fath sydd wedi digwydd yno ddyddiau ynghynt.
“Wrth i ni symud o’r pandemig i endemig mae’n rhaid i’r gemau gwleidyddol hyn ddod i ben wrth i ymateb Llafur i Omicron niweidio Cymru, nid gyda niferoedd mawr yn yr ysbyty a marwolaethau, ond drwy filoedd yn gorfod ynysu, gadael gwasanaethau cyhoeddus heb ddigon o staff, a busnesau ar eu colled.”