Mae gwleidydd o Iwerddon wedi manteisio ar statws newydd i’r Wyddeleg i gyflwyno gwelliant i ddeddfwriaeth yn Senedd Ewrop trwy gyfrwng yr iaith.

Mae gan y Wyddeleg statws llawn erbyn hyn, sy’n golygu bod Seán Kelly wedi gallu siarad yr iaith wrth gyflwyno’i welliant am y tro cyntaf.

Mae’r gwelliant yn ymwneud â cheisio barn ddrafft ar Fasnach Ryngwladol.

Mae’r mudiad Conradh na Gaeilge wedi canmol Seán Kelly ASE am ddefnyddio’r iaith ac am “ddarparu enghraifft ymarferol o’r statws” sydd wedi’i roi i’r Wyddeleg.

“Mae hyn yn dangos yn glir lwyddiant yr ymgyrch a gafodd ei brwydro gan y gymuned iaith Wyddeleg i sicrhau cydnabyddiaeth lawn i’r iaith Wyddeleg yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Dr Niall Comer, Llywydd Conradh na Gaeilge.

“Ymhellach, mae’n dangos yn glir fod yr iaith Wyddeleg wedi cymryd ei lle teilwng yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda’r un statws â holl ieithoedd swyddogol eraill yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae Conradh na Gaeilge nawr yn gobeithio bod rhagor o Aelodau o Senedd Ewrop am ddefnyddio’r iaith Wyddeleg wrth gyfrannu at ddeddfwriaeth yn Senedd Ewrop.

“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn ychwanegu at faint o Wyddeleg sy’n cael ei siarad gan Aelodau o Senedd Ewrop yn Senedd Ewrop ac ym Mhwyllgorau’r Senedd.”

Y defnydd o’r iaith “o bwys mawr”

“Mae’r defnydd o’r iaith Wyddeleg yn Senedd Ewrop o bwys mawr, yn enwedig yng nghyd-destun statws newydd i’r iaith Wyddeleg yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Peadar Mac Fhlannchadha, Rheolwr Eiriolaeth Conradh na Gaeilge.

“Y Senedd yw wyneb gyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd, a’r fforwm lle mae’r cynrychiolwyr etholedig o’r holl wladwriaethau sy’n aelodau’n cyfarfod.

“Mae’n bwysig fod arweinyddiaeth yn cael ei dangos gan ein cynrychiolwyr cyhoeddus o safbwynt yr iaith, a’u bod nhw’n defnyddio’r Wyddeleg.

“Cyn hyn, dim ond yn y Senedd roedden nhw’n gallu siarad Gwyddeleg, ond nawr bydd ganddyn nhw’r hawl i siarad Gwyddeleg ym Mhwyllgorau’r Senedd, ac fel mae Seán Kelly wedi’i wneud, byddan nhw’n gallu defnyddio’r Wyddeleg wrth gyfrannu at ddeddfwriaeth gerbron y Senedd.

“Mae’n eithaf eironig, fodd bynnag, fod gan yr iaith Wyddeleg statws uwch erbyn hyn yn Senedd Ewrop o’i chymharu â Dáil Éireann, heb sôn am Bwyllgor Gwaith Gogledd Iwerddon.

“Rhaid i Lywodraeth Iwerddon gymryd camau ar unwaith i gywiro’r sefyllfa hon.”