Mae Hywel Williams yn dweud bod y Ceidwadwyr yn gwrthod cefnogi bil i atal gwleidyddion rhag dweud celwydd yn dangos eu bod yn euog.

Yn ystod Cwestiynau Busnes yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Iau, Ionawr 27), gofynnodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon am ddadl ar gelwyddau mewn gwleidyddiaeth.

Mae’r blaid wedi galw ers tro am gyfraith i atal gwleidyddion rhag camarwain y cyhoedd yn fwriadol, gydag Adam Price, arweinydd y blaid, yn cyflwyno’r Bil Cynrychiolwyr Etholedig (Gwahardd Twyll) pan oedd yn aelod seneddol yn 2007.

Hyd yma, mae cynnig a gafodd ei gyflwyno gan Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ar Ionawr 13 i gefnogi cyfraith newydd wedi cael cefnogaeth 32 o aelodau seneddol.

Mae’r llofnodwyr yn cynnwys Ian Blackford (arweinydd yr SNP yn San Steffan), Ed Davey (arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol), Caroline Lucas o’r Blaid Werdd, a’r Aelod Seneddol Llafur Dawn Butler, a gafodd orchymyn i adael siambr Tŷ’r Cyffredin fis Gorffennaf y llynedd ar ôl gwrthod tynnu sylwadau yn ôl yn cyhuddo Boris Johnson o fod yn gelwyddgi.

‘Ychydig iawn o bobol sy’n dweud celwydd’

Wrth gael ei holi gan Channel 4 News neithiwr (nos Fercher, Ionawr 26), dywedodd Jacob Rees-Mogg, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, mai “ychydig iawn o bobol sy’n dweud celwydd mewn bywyd cyhoeddus” yn ei brofiad e.

“Wel, ychydig iawn o bobl sy’n dwyn ond mae’r gyfraith yno i ddelio â nhw,” meddai Hywel Williams wrth ymateb i’r sylwadau.

“Mae gan fy mhlaid gynigion hirsefydlog i gryfhau gallu’r Senedd i ddwyn gwleidyddion i gyfrif pan fyddan nhw’n dweud celwydd yn fwriadol.

“Felly, a allwn ni gael dadl ar ddweud celwydd mewn gwleidyddiaeth?”

Dywedodd Jacob Rees-Mogg fod “yr hyn y mae pobol yn ei ddweud yn wleidyddol yn fater o ddadl wleidyddol barhaus – dyma’r hyn a wnawn yn y Siambr hon”.

“Mae gan bobol farn wahanol ryw ffordd neu’i gilydd a phan fydd pobol yn anghytuno, maen nhw’n aml yn gwneud cyhuddiadau sy’n fwy ymosodol na’r ffeithiau.”

‘Euog’

Wrth siarad ar ôl y sesiwn, ychwanegodd Hywel Williams mai’r “unig reswm mae’r Torïaid yn gwrthod cefnogi cynigion Plaid Cymru yw eu bod yn gwybod y byddent i gyd yn cael eu canfod yn euog”.

“Mae celwyddau gan y rhai ar y brig yn achosi argyfwng llywodraethu,” meddai.

“Mae angen trosedd benodol arnom ar frys i atal celwyddau rhag llygru ein gwleidyddiaeth.”