Mae Cyngor Sir Caerffili yn bwriadu lobïo llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i gael gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc.

Fis Rhagfyr y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig wfftio galwadau, gan honni bod gormod o bobol yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Mae gan lywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon yr hawl eisoes i bennu diwrnodau cenedlaethol.

“Dylai’r hawl i alw gwyliau fod gyda Llywodraeth Cymru, ac ni ddylai neb yn San Steffan gael rhwystro ein dyhead,” meddai Teresa Parry, cynghorydd Plaid Cymru tros Ward Hengoed.

“Mae Cymru’n cael ei thrin yn genedl eilradd ac mae hynny’n warthus.”

Cafodd gwelliant i gynnig ei basio yng nghyfarfod y cyngor heddiw (dydd Mercher, Ionawr 27), ac roedd hwnnw’n nodi y byddai’r Cyngor yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael diwrnod o wyliau cenedlaethol.

Roedd y cynnig gwreiddiol yn galw ar y Cyngor i ddilyn esiampl Cyngor Gwyned a rhoi diwrnod o wyliau i staff ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Roedd y gwelliant yn nodi y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ddiwrnod o wyliau i bawb yng Nghymru, nid dim ond i staff y Cyngor.

Cefnogaeth

“Ni fyddai’n iawn nac yn deg i’r gweithwyr hynny yng Ngynghor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn unig gael elwa ar wyliau cenedlaethol, tra nad yw aelodau eu teuluoedd na’u cymdogion,” meddai Philippa Marsden, arweinydd Cyngor Caerffili.

Mae’r Cynghorydd Colin Mann, arweinydd Grŵp Plaid Cymru’r Cyngor, wedi datgan ei gefnogaeth i’r gwelliant, gan ddweud y dylai fod gan Gymru ddiwrnod o wyliau cenedlaethol “fel ein cefndryd Celtaidd yn yr Alban ac Iwerddon”.

Dywedodd hefyd y dylai Lloegr gael diwrnod o wyliau cenedlaethol ar gyfer Dydd San Siôr.

“Rwy’n falch fod y gwelliant i’r cynnig wedi cael cefnogaeth yr holl grwpiau o fewn siambr Cyngor Caerffili,” meddai Teresa Parry.

Cyngor Gwynedd i ganiatáu gwyliau i’w gweithlu ar Ddydd Gŵyl Dewi

Bydd y cynllun yn costio £200,000 i’r cyngor, gan nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dymuno dynodi Mawrth 1 yn Ŵyl y Banc swyddogol