Mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno heddiw (dydd Mawrth, 18 Ionawr) i ganiatáu diwrnod o wyliau swyddogol i’w gweithlu ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Roedd y cabinet wedi ystyried eu hopsiynau dros y misoedd dilynol ac maen nhw wedi amcangyfrif y byddai’r gost o gael diwrnod o wyliau yn £200,000.
Fe wnaethon nhw ystyried hynny a’r ymateb yn lleol yn eu cyfarfod prynhawn heddiw, gan benderfynu y bydd y gwyliau ar Fawrth 1 yn gallu digwydd eleni.
Roedd Cyngor Gwynedd hefyd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y diwrnod yn Ŵyl y Banc swyddogol, ond fe gafodd y cysyniad hwnnw ei wfftio ar y sail bod gormod o bobol yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr i weithio.
Yn eu llythyr at weinidogion ym mis Hydref, dywedodd y cyngor ei bod hi’n “embaras” bod llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu pennu diwrnodau cenedlaethol ac yn galw arnyn nhw i ddatganoli’r un hawliau i Lywodraeth Cymru.
Galwad
Daeth y cynnig gwreiddiol i sefydlu diwrnod o wyliau swyddogol i weithlu’r awdurdod lleol gan Elwyn Edwards, y cynghorydd dros ward Llandderfel.
“Ddylen ni ddathlu nawddsant ein gwlad a’n diwrnod cenedlaethol yn yr un modd ag y mae’r Alban ac Iwerddon yn dathlu eu rhai nhw,” meddai ym mis Hydref.
“Mae’n hen bryd i ni ddilyn yr un llwybr, sydd hefyd yn cynnig neges glir ynglŷn â’n statws fel gwlad ar wahân.
“Dylai San Steffan fod yn gadael i Lywodraeth Cymru benderfynu, ond o safbwynt Cyngor Gwynedd, rwy’n gwerthfawrogi y bydd ffactorau o ran costau cyn dyfarnu’r diwrnod i ffwrdd ychwanegol i staff.
“Ond yn sicr dylen ni gael yr un hawliau â’n cefndryd Celtaidd.”
Gwrthwynebiad
Ond mewn llythyr, nododd Paul Scully, Gweinidog Busnesau Bach San Steffan ei bryderon am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn Ŵyl Banc.
“Tra ein bod ni’n gwerthfawrogi bod pobol Cymru eisiau dathlu eu nawddsant, mae mwy o bobol yn gweithio ar draws y ffin rhwng Lloegr a Chymru nag ar draws y ffin rhwng Lloegr a’r Alban,” meddai.
“Gallai’r integreiddio hwn sydd gam yn nes achosi mwy o anghyfleustra i fusnesau.
“Pe bai gennym wyliau banc ar wahân yn Lloegr a Chymru, mae’r effaith ar weithwyr a busnesau ill dau yn anodd i’w darogan.”
Gan gydnabod y gallai gŵyl banc ychwanegol “fod o fudd i rai cymunedau a sectorau”, ychwanegodd Paul Scully fod asesiad o’r diwrnod ychwanegol i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer y Jiwbilî yn 2012 wedi costio £1.2bn i’r economi.
Wrth nodi bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig “yn parhau i ymrwymo i gydweithio â’r holl weinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod sefydliadau’r Deyrnas Unedig yn cydweithio fel un Deyrnas Unedig”, dywedodd nad oes gan y Llywodraeth yn San Steffan “unrhyw gynlluniau presennol” i newid “y trefniadau sefydledig sydd wedi’u derbyn” ar gyfer gwyliau banc yng Nghymru.
Ymateb “sarhaus”
Yn y cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, 18 Ionawr), fe wnaeth cabinet Cyngor Gwynedd benderfynu y bydd Dydd Gŵyl Dewi 2022 yn ddiwrnod o wyliau swyddogol, ac fe allai hyn fod yn drefniant parhaol wedi i swyddogion ymchwilio’r opsiynau posib ynghlwm â hynny.
Byddan nhw hefyd yn parhau i lobio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatganoli’r pwerau i sefydlu gwyliau banc i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor, Dafydd Meurig, bod ymateb cychwynnol San Steffan wedi bod yn “swta” ac yn “sarhaus.”
“Y penderfyniad sydd angen ei wneud prynhawn yma mae’n debyg ydi a fydden ni’n trio hyn flwyddyn yma,” meddai wrth raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
“Fe fydd yna gost ynghlwm â hynny a dydy o ddim yn beth hawdd i’w wneud. Mae’n edrych yn rhywbeth hawdd ar yr olwg gyntaf, ond yn sicr mae yna gymhlethdodau.
“Un cymhlethdod ydi nad yr hawliau neu’r pŵer i benderfynu pa ddyddiau sydd yn wyliau cyhoeddus gan y Llywodraeth yng Nghymru, maen nhw’n hawliau sydd gan Lywodraeth Lloegr wrth gwrs.
“Mae’r ymateb swta rydyn ni wedi ei gael gan rywun yn y Llywodraeth honno – nad ydw i’n cofio ei enw – yn sarhaus.
“Yn niffyg hynny, rydyn ni’n mynd i drio gweld beth sy’n bosib yn lleol.”