Mae aelodau Pwyllgor Economi’r Senedd yn galw am welliannau brys ar gyfer gyrwyr lorïau HGV yn sgil prinder gyrwyr.
Daw hyn yn dilyn achosion y llynedd o silffoedd gwag mewn siopau, gorsafoedd petrol ar gau, a tharfu ar wasanaethau cyhoeddus.
Mae’r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad i’r rhesymau dros y prinder gyrwyr a’r problemau yn y diwydiant, ac wedi bod yn trafod y mater fore heddiw (dydd Iau, Ionawr 27).
Mae prinder gyrwyr HGV yn deillio o gyfuniad o Covid, Brexit a ffactorau eraill.
“Mae’n gwbl glir bod gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn rhan hanfodol o’r cadwyni cyflenwi sy’n cefnogi bron pob agwedd ar fywyd modern,” meddai Paul Davies, y Ceidwadwr Cymreig sy’n cadeirio’r pwyllgor.
“Y llynedd, gwelsom beth sy’n digwydd pan fydd prinder gyrwyr yn achosi i’r cadwyni cyflenwi hyn chwalu – rhai o’r silffoedd yn wag yn ein siopau, rhai gorsafoedd petrol ar gau, a tharfu ar rai gwasanaethau.
“Y tu ôl i’r prinder y mae pobl go iawn sy’n gweithio’n galed iawn i gadw economi Cymru i fynd ac i sicrhau ein bod ni’n cael bwyd yn ystod y cyfnod heriol hwn. Yn sgil ein hymchwiliad, clywsom straeon brawychus am yr amodau mae gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn eu hwynebu bob dydd.
“Os nad ydym yn mynd i’r afael â’r materion, nid oes fawr ddim gobaith o recriwtio gyrwyr newydd, felly heddiw rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i wella cyfleusterau gyrwyr ledled y wlad. Er mwyn diogelu cadwyni cyflenwi yn y dyfodol, rhaid i’r Llywodraeth a’r diwydiant gydweithio a mynd i’r afael â’r prinder cronig parhaus o ran gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.
“Mae ein hadroddiad yn nodi argymhellion a fydd, yn ein barn ni, yn gwella profiadau, rhagolygon a’r drefn o ran recriwtio a chadw gyrwyr er mwyn cyrraedd y nod hwnnw a chefnogi ein gyrwyr gwerthfawr.”
Diffyg mannau gorffwys
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod yna ddiffyg mannau gorffwys diogel sydd â chyfleusterau da a glân yn un o’r prif resymau y mae llawer o yrwyr yn rhoi’r gorau iddi neu ddim yn mentro am yrfa yn y maes.
Mae’r adroddiad heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal archwiliad o gyfleusterau gorffwys i yrwyr a chreu rhestr genedlaethol debyg i’r hyn sydd ar gael yn Lloegr.
Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar frys gyda phartneriaid i wella mannau gorffwys i yrwyr ac i greu system safonau gwirfoddol sy’n dangos i yrwyr pa mor gyffyrddus â pha mor ddiogel yw mannau gorffwys.
Fis Hydref, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fisas dros dro i 5,000 o yrwyr lorïau gael gweithio yn y Deyrnas Unedig.
Er mwyn helpu o ran y diffyg cyfleusterau, mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn diweddaru’r polisi cynllunio o ran cyfleusterau warysau a datblygiadau eraill lle mae disgwyl y bydd nwyddau’n cael eu danfon a’u casglu’n rheolaidd i’w gwneud yn ofynnol iddyn nhw ddarparu cyfleusterau o safon uchel i yrwyr.