Mae Aelod Seneddol y Blaid Werdd wedi disgrifio’r penderfyniad i roi’r hawl i bwll glo Aberpergwm gloddio 40 miliwn tunnell arall o lo.
Yn ôl Caroline Lucas, Aelod Seneddol Brighton Pavilion, dylai tanwyddau ffosil gael eu cadw yn y tir.
Dywed Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n goruchwylio’r Awdurdod Glo ac sy’n gyfrifol am drwyddedu pyllau glo, eu bod wedi lleihau dibyniaeth y wlad ar lo yn sylweddol.
Fe wnaeth unig Aelod Seneddol y Blaid Werdd droi at y cyfryngau cymdeithasol i fynegi ei siom.
Such a backward step. Coal has no future & it's a huge mistake to allow a coalmine expansion during a #climateemergency
The farcical dispute over which minister has the power to cancel it just makes it worse
To keep 1.5C alive, we must #KeepItInTheGround & #ReclaimOurFuture https://t.co/yCAVLP9xeh
— Caroline Lucas (@CarolineLucas) January 26, 2022
“Mae hyn yn gymaint o gam yn ôl. Nid oes dyfodol i lo – mae’n gamgymeriad enfawr i ganiatáu ehangu’r pwll glo yn ystod #ArgyfwngnHinsawdd,” meddai Caroline Lucas ar ei chyfrif Twitter.
“Mae’r anghydfod chwerthinllyd y mae gan weinidog y pŵer i’w ganslo yn ei wneud yn waeth.
“Er mwyn cadw 1.5C yn fyw, rhaid i ni #GadwGloDanDdaear #AdennilleinDyfodol.”
Roedd gweinidogion Cymru am i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ganslo’r drwydded ar gyfer pwll glo Aberpergwm ger Glyn-nedd yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Ond nos Fercher, fe ddywedon nhw eu bod nhw wedi ymrwymo i weithio gyda’r cwmni ar fodelau busnes sydd yn gynaliadwy.
Dyma’r lofa sy’n parhau i gynhyrchu glo caled (anthracite) – glo o ansawdd uchel yng ngorllewin Ewrop – sy’n cyflenwi gwaith Tata Steel ym Mhort Talbot.
Dywed Energybuild nad yw’r rhan fwyaf o’i lo wedi’i losgi ar gyfer ynni, ond ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn prosesau gan gynnwys puro dŵr.
Maen nhw’n dweud bod y pwll yn darparu 160 o swyddi â chyflogau da yn ardal Cwm Nedd, ynghyd ag 16 o brentisiaethau.
‘Anghredadwy a chwbl gywilyddus’
“Mae’n anghredadwy ac yn gwbl gywilyddus, yn enwedig pan fydd y Deyrnas Unedig yn dal i fod dan arlywyddiaeth COP, corff newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig,” meddai Caroline Lucas.
“Mae wedi’i waethygu gan yr anghydfod chwerthinllyd rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru ynghylch pwy sydd â’r pŵer i ganslo’r drwydded.”
Ysgogodd ei sylwadau ffrae rhwng San Steffan a Chaerdydd ynghylch pwy sydd yn gyfrifol yn y pen draw.
Yn wreiddiol fe gafodd pwll Aberpergwm drwydded i gloddio cyn trosglwyddo pwerau cloddio i Lywodraeth Cymru.
Roedd gweithredwyr y pyllau glo wedi gwneud cais i’r Awdurdod Glo am gydnabyddiaeth ffurfiol fod yr amodau sydd ynghlwm wrth eu trwydded wreiddiol wedi’u cyflawni.
Mae Llywodraeth Cymru’n mynnu nad ydyn nhw’n cefnogi cloddio tanwyddau ffosil a’u bod nhw’n canolbwyntio ar yr argyfwng hinsawdd.