Mae angen gwneud newidiadau i’r ffordd mae Llywodraeth Cymru’n darparu eu cynllun gofal plant i rieni sy’n gweithio, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, mae rhieni yng Nghymru’n wynebu ystod o rwystrau sy’n eu hatal rhag cael mynediad at y ddarpariaeth.

Mae’r adroddiad Gwarchod y dyfodol: y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio yn dangos bod llawer o rieni’n cael eu heithrio rhag cael unrhyw fath o ofal plant.

Ar y funud, dydi plentyn o deulu rhiant sengl nad sy’n gweithio, neu deulu dau riant lle nad yw un neu’r ddau riant yn gweithio, yn gymwys.

Mae rhieni sy’n gweithio oriau ansicr, sy’n gwneud gwaith shifft, neu sydd ar gontractau sero awr yn wynebu rhwystrau ychwanegol, meddai’r adroddiad.

Dydi rhieni sydd ag oriau gwaith sy’n amrywio o wythnos i wythnos ddim yn gallu cadw lle mewn meithrinfeydd sy’n agos at fod yn llawn chwaith.

Dywedodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wrth y Pwyllgor fod teuluoedd ar incwm isel yn gallu wynebu rhwystrau gan eu bod nhw’n fwy tebygol o fod mewn gwaith heb oriau sefydlog.

Clywodd y Pwyllgor fod rhieni plant ag anableddau yn ei chael hi’n “arbennig o anodd” cael mynediad at gymorth.

Mae darpariaeth gofal plant ar gyfer plant ag anableddau wedi lleihau’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gostyngodd nifer y lleoedd i blant ag anghenion ychwanegol o 31% yn 2019 i 19% yn 2021, a dywedodd 38% o awdurdodau lleol Cymru nad oes ganddyn nhw ddarpariaeth ddigonol o ran gofal ar gyfer plant ag anableddau.

Rhieni’n “llithro drwy’r rhwyd”

Dywedodd Jenny Rathbone AoS, cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod angen darpariaeth well o ran gofal plant i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng menywod a dynion, a sicrhau cyfleoedd cyfartal yn y gweithle.

“Nid yw’r system bresennol yn ei gwneud hi’n hawdd; mae rhieni’n gorfod ymdrin â system gymhleth i weithio allan sut y gallant hawlio cymorth gofal plant,” meddai.

“Er gwaethaf bwriad gorau Llywodraeth Cymru, mae llawer o rieni sy’n gymwys i gael cymorth yn llithro drwy’r rhwyd.

“Mae angen i’r Llywodraeth ymateb ar fyrder i’n hargymhellion a blaenoriaethu cau’r bylchau yn y system.”

‘Hollol ddibynnol ar ofalwr’

Dywed Laura Morgans, sydd yn gweithio mewn ysgol ac yn rhiant sengl o Don Pentre, Rhondda, nad yw’r drefn bresennol fel ei bod hi’n cydnabod faint o her ydy hi i gael plant o wahanol oedrannau sydd angen gofal.

“Pan ydych chi’n mynd nôl i’r gwaith ar ôl cael plant, mae hi hollol lan i chi drefnu gofal plant – does neb yna i helpu chi, yn dweud wrthoch chi le i fynd, pwy i ofyn,” meddai.

“Doedd gen i ddim syniad lle i droi ac roeddwn yn ffodus iawn bod fy nghymydog i yn ofalwr plant. Dydw i ddim yn gwybod be fyswn i wedi neud heb y lwc yna.

“Pan nad yw’r gofalwr plant ar gael, mae rhaid i mi gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith heb dal achos does bron dim clybiau ar ôl ysgol yn fy ardal i.

“Fel rhiant sengl sydd yn byw i ffwrdd o fy nheulu, rydw i’n hollol ddibynnol ar ofalwr plant i allu mynd i’r gwaith.

“Dw i wir yn gobeithio fod pethau yn newid i fod yn haws i bobol fel fi cyn bo hir.”

Mae’r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru’n cynnwys ymrwymiad i ehangu’r cynnig gofal plant presennol ar gyfer plant tair a phedair oed i gynnwys plant dwy oed, ac mae’r Pwyllgor yn nodi bod rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu camau i gau’r bylchau yn y system.