Mae Aelod Seneddol Ynys Môn yn gobeithio y bydd ei thaith i ddysgu Cymraeg yn annog eraill i ddysgu’r iaith hefyd.

Fe wnaeth Virginia Crosbie ffilmio ei chyfweliad cyntaf yn Gymraeg yr wythnos hon pan ymddangosodd ar Y Byd yn ei Le gyda Guto Harri.

Pan gafodd ei hethol i San Steffan yn 2019, fe wnaeth Virginia Crosbie, sydd â chysylltiadau Cymreig ar ochr ei thad, addo y byddai hi’n dysgu’r iaith.

Ers hynny, mae’r gwleidydd a gafodd ei magu yn Essex wedi mynychu gwersi Cymraeg, wedi bod ar gwrs preswyl, ac wedi pasio prawf llafar Lefel Mynediad Cymraeg i Oedolion â sgôr o 95%.

‘Dyfalbarhad’

Dywedodd ei bod hi’n “eithaf nerfus” yn gwneud y cyfweliad, ond ei bod hi’n credu ei bod hi wedi cyrraedd y fan lle mae posib iddi wneud cyfweliadau yn Gymraeg “gyda pharatoadau a chyflwynydd clên fel Guto i fy helpu”.

“Dw i’n bell o fod yn gallu siarad yn helaeth ar bynciau cymhleth ond dw i’n teimlo fy mod i’n cadw fy addewid i ddysgu’r iaith a dw i’n cyrraedd yna’n araf deg,” meddai Virginia Crosbie.

“Fe wnaeth fy nhad dyfu fyny yn siarad Cymraeg mewn ysgol yn Sir Fynwy, a dw i’n falch o allu parhau â’r traddodiad teuluol Cymreig hwnnw.

“Dw i’n gobeithio bod fy nhaith yn annog eraill i ddysgu Cymraeg hefyd. Mae’n gofyn am ddyfalbarhad – rhywbeth y mae gennyf i ddigon ohono!

“Dw i’n benderfynol o gynrychioli fy nghymuned ar Ynys Môn drwy ddysgu’r iaith frodorol a chadw’n diwylliant balch yn fyw.”

Yn y cyfweliad â’r Byd yn ei Le, bu Virginia Crosbie yn siarad am y digwyddiadau diweddar yn Downing Street, yr Wcráin, a’r pandemig a’r economi, yn ogystal â’i blaenoriaethau lleol ar gyfer Wylfa B a sefydlu porthladd rhydd yng Nghaergybi.

Dysgu Cymraeg ac edrych ymlaen at ddefnyddio’r iaith

“Dw i’n gwisgo fy mathodyn dysgu Cymraeg gyda balchder ar hyd coridorau San Steffan”