Fe wnaeth Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, addo yn ystod ei hymgyrch etholiadol yn 2019, fynd ati i ddysgu Cymraeg.

Cafodd y Ceidwadwr sy’n wreiddiol o Essex ei henwebu fel ymgeisydd ar y funud olaf ac fe enillodd hi fwyafrif o bron i 2,000.

Gan gadw at ei haddewid arall o symud ei theulu i fyw ar yr ynys, mae hi hefyd wedi mynd ati i ddilyn Cwrs Mynediad Cymraeg gyda phrifysgol Bangor.