Mae Heddlu Llundain yn mynnu y dylai adroddiad Sue Gray i bartïon yn Rhif 10 gynnwys cyn lleied o fanylion â phosib am eu hymchwiliad nhw eu hunain.

Gallai hynny olygu nad oes hawl gan yr adroddiad hirddisgwyliedig i gyfeirio o gwbl at y materion penodol y maen nhw nawr yn ymchwilio iddyn nhw.

Ddydd Mawrth (Ionawr 25), cyhoeddodd y Fonesig Dame Cressida Dick, Comisiynydd Heddlu Llundain, fod swyddogion yr heddlu wedi agor eu hymchwiliad eu hunain i ddigwyddiadau yn Downing Street.

Er hynny, dywedodd Scotland Yard mewn datganiad nad ydyn nhw wedi gofyn i’r adroddiad gael ei ohirio nac wedi gorchymyn unrhyw gyfyngiadau eraill ar yr ymchwiliad gan y Swyddfa Gabinet.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw mewn cysylltiad agos â’r tîm hwnnw yn Whitehall a’r Llywodraeth yn ehangach er mwyn “osgoi unrhyw ragfarn yn eu hymchwiliad nhw”, a chwtogi ar y wybodaeth sy’n cael ei rhannu ynglŷn â digwyddiadau.

Yn y cyfamser, mae Boris Johnson yn siŵr o fod yn gofidio am yr adroddiad gan Sue Gray, oherwydd gallai canfyddiadau negyddol i’r Prif Weinidog olygu bod aelodau o’i blaid ei hun yn mynegi diffyg hyder ynddo.

‘Cyfeiriad lleiaf’

Fe gyhoeddodd Heddlu Llundain ddatganiad fore heddiw (dydd Gwener, Ionawr 28) yn egluro’u dymuniadau.

“Ar gyfer y digwyddiadau y mae Heddlu Llundain yn ymchwilio iddyn nhw, rydyn ni wedi gofyn i’r Swyddfa Gabinet wneud y cyfeiriad lleiaf atyn nhw yn eu hadroddiad,” meddai’r heddlu.

“Dydy Heddlu Llundain heb ofyn am unrhyw gyfyngiadau ar ddigwyddiadau eraill yn yr adroddiad, nac i’r adroddiad gael ei ohirio, ond rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad parhaus â’r Swyddfa Gabinet, yn enwedig ynglŷn â chynnwys yr adroddiad, er mwyn osgoi unrhyw ragfarn i’n hymchwiliad ni.”

Mae’n bosib, felly, y bydd rhaid i Sue Gray wneud newidiadau sylweddol i’w hadroddiad hi neu ddisgwyl tan y bydd ymchwiliad Heddlu Llundain wedi dod i ben cyn ei gyhoeddi.

Yn ôl rhai ffynonellau sy’n agos i ymchwiliad Whitehall, mae’n debyg y byddai Gray yn amharod i rannu adroddiad nad yw’n cynnwys y manylion llawn am y digwyddiadau.

Does dim cadarnhad chwaith am faint o ddigwyddiadau mae’r heddlu yn Llundain yn eu hymchwilio, ond mae’n debyg y gallai fod yn gymaint ag wyth.

Diffyg hyder?

Hyd yn hyn, mae saith Aelod Seneddol Torïaidd wedi galw’n gyhoeddus ar y Prif Weinidog i roi’r gorau iddi, yn ogystal â Douglas Ross, arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban.

Mae’n debyg fod hyd yn oed mwy wedi gwneud hynny mewn llythyron preifat.

Os bydd nifer y llythyrau yn galw arno i ymddiswyddo yn cyrraedd 54, sef 15% o holl aelodau’r Ceidwadwyr yn San Steffan, yna byddai pleidlais o ddiffyg hyder yn arweinyddiaeth Boris Johnson yn cael ei sbarduno.

Byddai’n rhaid iddo ennill cefnogaeth hanner yr holl aelodau seneddol Torïaidd er mwyn aros yn Rhif 10.

Er mwyn ceisio plesio aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr yn San Steffan, mae’n debyg fod Boris Johnson yn ystyried gohirio cynnydd yn yr Yswiriant Gwladol, a oedd wedi ei weithredu er mwyn cael arian i ddelio ag oedi yn y Gwasanaeth Iechyd a gwneud newidiadau mewn gofal cymdeithasol.