Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dweud y byddan nhw’n mynd i’r afael â’r broblem “gymhleth” o ail gartrefi a chartrefi gwag yn y sir.

Yn ôl ffigurau’r Cyngor, mae dros 1,200 eiddo yn y sir yn wag, gyda rhai ohonyn nhw’n wag ers dros ddeng mlynedd.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth y Cyngor gymeradwyo cynnig gan y Cynghorydd John Eryl Roberts o Blaid Cymru i edrych ar sut i leihau nifer y tai gwag.

‘Cael eu gadael i bydru’

Dywed y Cynghorydd Roberts, sy’n cynrychioli ward Cwm Aber, fod tai “yn aml yn cael eu gadael i bydru, sydd weithiau’n achosi problemau anferth i gymdogion a chymunedau”.

“Gyda bron i 5,000 o bobol ar restr aros y Cyngor am dai, mae angen gweithredu llym,” meddai.

Fe awgrymodd y Cynghorydd Roberts y dylid dyblu treth y cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor, gan fuddsoddi’r arian sy’n cael ei gasglu mewn prosiectau ar draws y sir.

Mae hynny’n rywbeth sydd eisoes wedi cael ei weithredu yng Ngwynedd, Abertawe a Sir Benfro, gyda nifer o gynghorau eraill yn trafod dilyn yn eu holion traed.

Fe gafodd ei nodi yn y cynnig hefyd y dylai cosbau ariannol fod yn cael eu gorchymyn er mwyn taclo’r broblem gynyddol.

‘Problem gymhleth iawn’

Fe wnaeth y Cynghorydd Jamie Pritchard, dirprwy arweinydd yr awdurdod Llafur, groesawu’r cynnig, gydag aelodau sawl plaid yn gwneud yr un fath.

Dywedodd y Cynghorydd Llafur Shayne Cook, yr Aelod Cabinet ar gyfer tai, fod y gefnogaeth ar draws y pleidiau yn “dangos bod cydweithredu rhwng pleidiau amrywiol yn gallu bod yn fuddiol iawn i drigolion”.

“Mae eiddo gwag yn broblem gymhleth iawn a ddim yn un hawdd i’w datrys, gyda’r Cabinet yn cytuno i greu Tîm Eiddo Gwag yn 2020,” meddai.

“Ond gyda’r pandemig yn effeithio ar recriwtio a lefelau staffio, mae’r tîm ond wedi bod yn gweithredu yn llwyr ers Hydref 2021.”

Mae’r Tîm Eiddo Gwag â llawer o gyfrifoldebau yn ymwneud ag eiddo gwag, gan gynnwys gweithredu ail gam y rhaglen Grant Cartrefi Gwag, sydd wedi ei chyflwyno gan Dasglu’r Cymoedd Llywodraeth Cymru.