Mae un o weinidogion Llywodraeth Prydain yn Swyddfa Cymru wedi amddiffyn ei sylwadau am gylchgrawn Golwg a gwefan Nation.Cymru ar S4C.

Roedd yr Aelod Seneddol Ceidwadol David TC Davies ar raglen Pawb a’i Farn neithiwr yn honni bod Golwg a Nation.Cymru yn “bropaganda” i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Roedd yn dadlau bod hyn yn dangos pam na ddylai grymoedd darlledu gael eu datganoli i Gymru.

Heddiw mae golwg360 wedi cyfweld David Davies i’w holi am ei sylwadau.

“Rwy’n darllen Golwg bob wythnos, mae’n gylchgrawn da ac rwy’n mwynhau ei ddarllen cyn mynd i’r gampfa, ond mae yna golofnwyr, wythnos ar ôl wythnos, yn defnyddio eu platfform i bwmpio stwff mas yn erbyn y Ceidwadwyr,” meddai.

“Mae holl dôn y ddau [Golwg a Nation.Cymru] yn beirniadu’r Ceidwadwyr ac unrhyw farn i’r dde,” meddai.

“Maen nhw’n ddarparwyr newyddion sydd ddim yn cwestiynu Llywodraeth Cymru yn yr un modd â Llywodraeth San Steffan.”

“Propaganda”

Mae rhaglen Pawb a’i Farn wedi gosod clip o’r drafodaeth ar eu cyfrif Twitter, sy’n dangos David TC Davies yn dweud:

“Dydw i ddim yn ymddiried yn y Cynulliad gyda darlledu oherwydd pethau fel Golwg sy’n cael arian [cyhoeddus] a Nation.Cymru.

“Dim ond propaganda i Lywodraeth Cymru ac aelodau Plaid Cymru yw Nation.Cymru. Yn y bôn, rydych chi’n hapus iawn i roi arian tuag at wefannau fel hynny er mwyn sicrhau bod eich propaganda’n gallu dod allan.”

Daw’r drafodaeth yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth Prydain i rewi’r Ffi’r Drwydded gyda rhai’n cwestiynu dyfodol darlledu cyhoeddus.

Datganoli Darlledu

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ers blynyddoedd lawer am drosglwyddo’r pwerau tros ddarlledu o Lundain i Fae Caerdydd.

Yn rhan o gytundeb cydweithio Llafur Cymru a Phlaid Cymru mae ymrwymiad i ystyried creu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu i Gymru.

Ond mae David TC Davies yn taflu dŵr oer am ben y syniad.

“O ble mae’r galw mawr hwn am ddatganoli grymoedd yn dod?” meddai wrth golwg360.

“Rwy’n siŵr iawn y byddai nifer o’r platfformau hyn sy’n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru am weld pwerau darlledu yn cael eu datganoli.

“Dydw i byth yn mynd i ganiatáu i glymblaid o ryw fath yn y Senedd i reoli hyd yn oed yn fwy o’r wasg, ac rwy’n teimlo’n gryf iawn am hyn.

“Mae bron yn amhosib i weithio yn y wasg Gymreig os ydych chi’n gwneud y pwynt yma a siarad allan am hyn fel rydw i’n gwneud…

“Mae gyda ni broblem os yw’r wasg yn erbyn un blaid fel polisi golygyddol, tra mae’n derbyn arian gan y pwrs cyhoeddus, a dyna’r sefyllfa sydd ohoni yng Nghymru.”

Mae’r sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis wedi dweud bod gan David TC Davies “ffordd ryfedd iawn o geisio dylanwadu ar yr agenda newyddion”.

“Cylchgrawn gwrthrychol”

Mae Prif Weithredwr dros dro cwmni Golwg wedi ymateb i sylwadau David TC Davies.

“Rydan ni’n gylchgrawn gwrthrychol sy’n trin pawb yr un fath ac yn falch iawn o’r egwyddor honno,” meddai Owain Schiavone.

“Mae gyda ni ystod o golofnwyr o gefndiroedd amrywiol, ac yn parchu eu rhyddid i drin a thrafod materion fel y mynnan nhw.”

“Falch o gyhoeddi darnau gan y Ceidwadwyr”

Mae Cyfarwyddwr Nation.Cymru, Ifan Morgan Jones, wedi ymateb i’r sylwadau gan David TC Davies:

“Rydym bob amser yn falch o gyhoeddi darnau gan y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ac rydym wedi cyhoeddi pob darn barn a anfonwyd atom dros y blynyddoedd gan yr arweinwyr Andrew RT Davies a Jane Dodds a’u ASau ac Aelodau’r Senedd.

“Y gwir yw nad ydyn ni yn ffafrio unrhyw blaid wleidyddol – dim ond o blaid Cymru ydyn ni, ac rydyn ni eisiau sgwrs genedlaethol am yr hyn sydd orau i Gymru. Byddwn yn rhoi llwyfan i unrhyw un sy’n dymuno dadlau er lles gorau Cymru.

“Fodd bynnag, rwy’n credu ei fod bob amser yn arwydd da i unrhyw sefydliad newyddion pan fydd un o weinidogion y llywodraeth yn teimlo bod angen ei feirniadu ar y teledu.”