Mae trigolion Gwlad y Medra am gael y cyfle i ddysgu sut i adeiladu cwrwgl, sef math o gwch bychan sy’n edrych fel basgiad fawr.

Mae Cyngor Môn wedi creu partneriaeth gyda Choedwig Gymunedol Coed Llwynonn a Chyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu cyfres o weithdai sgiliau gwledig traddodiadol.

Bwriad y gweithdai ydi hyrwyddo crefftau traddodiadol – sydd wedi cael eu defnyddio ar hyd yr oesoedd, megis adeiladu cwrwgl – ond sydd bellach dan fygythiad.

Yn ddiweddar cynhaliodd Tîm Cefn Gwlad ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) y Cyngor Sir weithdy lle daeth pobl at ei gilydd i greu cwryglau allan o ddeunyddiau naturiol.

Dywedodd Joseff Davies, Warden Cymunedol yr AHNE: “Dyma’r ail weithdy yr ydym ni wedi’i gynnal ac roedd yn dilyn y  gweithdy codi cloddiau sychion a gynhaliom ym mis Hydref 2021.

“Roedd y gweithdy hwn yn gwbl wahanol i’r gweithdy cyntaf gan ei fod yn ymwneud mwy â hyrwyddo crefftau sy’n prinhau yn hytrach na rheoli cefn gwlad.”

“Yn anffodus, mae’r grefft o adeiladu cwrwgl yn sgil sydd dan fygythiad yn y Deyrnas Unedig – dydi rhai pobl ddim hyn yn gwybod beth ydi cwrwgl – heb sôn am adeiladu un.

“Roedd cwrwgl yn rhan hanfodol o fywyd i’n cyndeidiau; roedd yn arf hanfodol a oedd yn cael ei ddefnyddio bob dydd i gludo a chario a physgota.

“Cawsom adborth hynod galonogol yn dilyn y gweithdy. Dywedodd pawb a gymerodd ran eu bod wedi mwynau’r sesiynau ac roeddent yn awyddus i roi cynnig ar y cwryglau newydd ar y dŵr.”