Stori am y gwrthwynebiad lleol i gais cynllunio i adeiladu tai preswyl yn Aberystwyth sydd wedi cipio gwobr Stori Leol y Flwyddyn yng ngwobrau Bro eleni.

Roedd y cais cynllunio yn ymwneud â darn o dir sy’n ffinio Hafan y Waun, Erw Goch a Chefn Esgair yn y dref, ac fe sbardunodd wrthwynebiad cryf ymhlith trigolion yr ardal.

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal ar Chwefror 8, meddai’r erthygl, gyda mwy na 60 o bobol leol yn bresennol, ynghyd â Chynghorwyr Sir a Chynghorwyr Cymunedol, i drafod eu gofidion.

Un o’r prif bryderon oedd y risg y byddai’r datblygiad yn gwaethygu llifogydd yn yr ardal, tra bod goblygiadau amgylcheddol a materion yn ymwneud a thrafnidiaeth hefyd yn peri gofid, meddai’r erthygl.

Mae’r stori’n dyfynnu Elin Mabbut, un o drigolion yr ardal sy’n manylu ar bryderon pobol leol, ynghyd â chynghorydd sir oedd yn gwrthwynebu’r datblygiad tai ar sail y perygl o lifogydd a phroblemau’n ymwneud â thrafnidiaeth.

Wrth ymateb ar y pryd, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion eu bod nhw’n “ystyried y cais presennol” a’r ymatebion i’r cyfnod ymgynghori, “ochr yn ochr â pholisïau cynllunio cenedlaethol a lleol, a dynodi’r safle i’w ddatblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol”.

 

Yr holl enillwyr a’r rhestrau byrion

Cyfranogwr ifanc y flwyddyn

Enillydd: Brengain Glyn

Cydweithio pert â’r papur bro –

Enillydd: trafod y rhifyn diweddaraf gyda’r golygydd (Clonc a Clonc360)

Fideo y flwyddyn

Enillydd: Uchafbwyntiau CPD Nantlle Vale (Dyffryn Nantlle 360)

 

Blog byw y flwyddyn

Enillydd: Marchnad y Ffermwyr Aberystwyth (BroAber360)

Cyfres y flwyddyn

Enillydd: Cyfres ‘gweithwyr allweddol’ Caron360

Stori gwneud gwahaniaeth

Enillydd: Canu tu fas cartrefi gofal (Caron360)

Digwyddiad Gŵyl Bro y flwyddyn

  • Gŵyl Bro Y Felinheli
  • Tregaroc bach bach
  • Gig Noson Ogwen
  • Pnawn yn llyfrgell ffeirio planhigion Gerlan
  • JENGYD
  • Helfa drysor Llanbed
  • Helfa drysor Gorsgoch
  • Cerdded, crafu pen, clonc a chacen Y Ddolen
  • Parti Pentre Ponterwyd
  • Taith gerdded Bow Street a Llandre
  • Gŵyl Nôl Da’n Gilydd Cribyn

Enillydd: JENGYD

 

Barn y bobol –

BangorFelin360: https://bangorfelin.360.cymru/2021/gwyl-bangorfelin/

BroAber360: https://broaber.360.cymru/2021/diwrnod-daith-milltir-dana/

BroWyddfa360: https://browyddfa.360.cymru/2021/gwrachod-beyonce-ffeministiaeth-magu/

Caernarfon360: https://caernarfon.360.cymru/2021/gwersyll-rygbi-cofis/

Caron360: https://caron.360.cymru/2021/sioe-tregaron/

Clonc360: https://clonc.360.cymru/2021/sioned-howells-ennill-prif-lenor-eisteddfod-2021/

DyffrynNantlle360: https://dyffrynnantlle.360.cymru/2021/cofio-maldwyn-rhafod/

Ogwen360: https://ogwen.360.cymru/2021/cadw-strydoedd-bethesda/

Enillydd: Ogwen360

 

Gwasanaeth lleol y flwyddyn

Enillydd: Caernarfon360 a Caron360 yn rhannu’r wobr

Stori leol y flwyddyn gan golwg360

Enillydd:

Cais cynllunio i adeiladu tai preswyl yn sbarduno gwrthwynebiad cryf yn lleol:

Cais cynllunio i adeiladu tai preswyl yn sbarduno gwrthwynebiad cryf yn lleol

Gohebydd Golwg360

“Mae shwt gymaint o resymau pam dyle nhw ail-ystyried ac ail-edrych ar y lleoliad”