Mae lle arbennig gan y Gymraeg yn ein cymdeithas. Mae’r Gymraeg yn iaith fodern, egnïol gyda hanes hir a chyfoethog sy’n parhau i ffynnu 1400 mlynedd yn ddiweddarach, er iddi wynebu nifer o heriau bob cam o’r ffordd. Er bod y Gymraeg yn mynd o nerth i nerth ers troad y mileniwm, gydag adfywiad newydd yn sgil pandemig Covid-19, dylen ni ystyried y syniad o sefydlu academi swyddogol i’r iaith, i ddiogelu a chefnogi ein hiaith genedlaethol fel L’Académie Française yn Ffrainc neu La Real Academia Española yn Sbaen.
Mae’n bwysig nodi’n gyntaf bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i ni gyd. Yr iaith yw’r hyn sy’n gyfrifol am bwy ydym ni, ac mae hi’n destun balchder. Mae’r iaith wedi ei gweu o fewn adeiledd cymdeithas ddyddiol Cymru, gydag enwau, arwyddion stryd, digwyddiadau ac ein hanthem hyfryd iawn yn uno ein cenedl yn dynn at ei gilydd fel gwlad ddiwahân ac unedig.
Ar hyn o bryd, mae pwerau’r Gymraeg yn gorwedd mewn dau le. Yn gyntaf, gyda Chomisiynydd y Gymraeg Aled Roberts – mae ei rôl yn canolbwyntio ar hybu a hwyluso’r Gymraeg o fewn y wlad, yn ogystal â materion cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw anghydraddoldebau ieithyddol. Yn ail, Gweinidog y Gymraeg dros Lywodraeth Cymru Jeremy Miles AS, er bod y rôl hon yn rhan fach o’r portffolio Addysg ehangach mae’n ei gynrychioli. Tra bod y gweision cyhoeddus hyn yn meithrin ein hiaith, a ddylai llwyddiant ein hiaith yn y dyfodol ddisgyn ar ysgwyddau un gwas sifil ac un gwleidydd yn y pen draw?
Gallai Academi Iaith Genedlaethol ganiatáu i ni ddatblygu wyneb cyhoeddus i’n hiaith fyddai’n berchen i bob un ohonom, gan roi mynediad i bobol at sefydliad gwirioneddol gyhoeddus. Ymhellach, gallai elw posibl Academi Iaith helpu i uno’r genedl drwy ddod yn ganolbwynt i’r Gymraeg – datblygu cyrsiau cenedlaethol, gosod arholiadau cyhoeddus yn ogystal â chyflwyno polisïau (e.e. cynlluniau iaith) i bob corff cyhoeddus eu dilyn a’u gweithredu.
Rwy’n derbyn y gallai rhai weld creu Academi Iaith Genedlaethol fel cam yn ôl i’n hiaith. Ni fyddai ei chreu yn dod heb fuddsoddiad blynyddol mawr o ran yr arian fyddai ei angen er mwyn cynnal yr Academi, talu ei staff yn ogystal â threfnu ei strwythur. Yn ogystal â’r costau, gallai sefydlu’r Academi hefyd gael ei weld fel ymgais i fiwrocrateiddio’r Gymraeg, a hithau’n iaith sydd bob amser wedi cynnal ysbryd meddwl herfeiddiol ac annibynnol.
Wrth geisio rheoli ein hiaith yn hytrach na chaniatáu iddi ddatblygu’n naturiol dros amser, gallai llawer weld creu Academi Iaith fel rhywbeth modern cyfatebol i’r ‘Welsh Not’ allai anwybyddu tafodieithoedd lleol a chystadleuaeth iach aml dafodieithoedd rhwng y gogledd a’r de, o blaid iaith homogenaidd, unedig a thrwy hynny niweidio’n anfwriadol ei threftadaeth ddiwylliannol anniriaethol sy’n sylfaen i’n cenedl.
Rwy’n gweld sut y gallai rhai pobol feddwl y gallai corff cyhoeddus fel hyn greu rhaniadau rhwng ein cymdeithas, os nad yw’n cynnwys y rhwystrau a’r gwrthbwysau anhepgor mae unrhyw sefydliad cyhoeddus ei angen i sicrhau bod y corff ddim yn troi yn fwystfil heb reolaeth, fyddai’n dod yn faich a bygythiad i Gymru a’i phobol. Ond mae’r rhain yn bryderon y gallwn eu goresgyn. A’r wobr? Academi Iaith Genedlaethol fyddai’n gosod yr iaith Gymraeg ar seiliau cryfach, gan adnewyddu’r uchelgais i gyrraedd yr her o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.