Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn euog o “ragrith”, yn ôl Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru.

Daw hyn ar ôl i’r Ceidwadwyr Cymreig gyhuddo Plaid Cymru o wastraffu amser ar faterion cyfansoddiadol, am gael dadl yn erbyn Bil Etholiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, cyn iddyn nhw gynnal dadl eu hunain ar longyfarch y Frenhines wrth iddi ddathlu 70 o flynyddoedd ar yr orsedd, ddim ond wythnos yn ddiweddarach.

“Y rhagrith yw eu bod nhw’n cael go arnom ni am gael dadleuon cyfansoddiadol gyda’r Bil Etholiadau, gan ddweud bod pethau pwysicach i’w trafod, ac wedyn wythnos ar ôl hynny, cynnal dadl gyfansoddiadol ynglŷn â’r Frenhiniaeth,” meddai wrth golwg360.

“Maen nhw ddigon hapus i gael dadleuon cyfansoddiadol pan mae o’n siwtio nhw eu hunain.

“Fe gawson nhw’r ddadl gyfansoddiadol fwyaf yn y cyfnod modern gyda Brexit.”

‘Sefyllfa beryglus’

Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig – y Bil Etholiadau – yn bygwth democratiaeth ac yn creu “sefyllfa beryglus”, medd Rhys ab Owen.

Bydd y Mesur Etholiadau, os caiff ei basio, yn cyflwyno newidiadau mawr i etholiadau, gan gynnwys cyflwyno dogfennau adnabod ffotograffig gorfodol i bleidleisio.

“Mae e’n mynd i effeithio’n waeth ar bobol o gefndiroedd ethnig, dyw 48% o bobol ddu ym Mhrydain heb ID ffotograffig,” meddai Rhys ab Owen.

“Mae e’n mynd i effeithio ar bobol anabl, pobol ddigartref a’r bobol dlotaf yn y gymuned yn fwy na neb arall.

“Does dim ei angen e, mae ffigyrau twyll etholiadol yn isel iawn – un oedd wedi bod yn etholiad (cyffredinol) 2019 er enghraifft.

“Maen nhw mor isel, does dim angen ID er mwyn pleidleisio.

“Mae Boris Johnson ei hunan droeon wedi dweud mor gryf mae e yn erbyn IDs lle nad oes angen, ond nawr mae e o blaid voter IDs.

“Mae’r sinig ynoch chi yn dweud eu bod nhw’n gwneud e er mwyn rhoi mantais i’w plaid nhw.

“Wrth i chi ystyried hynny ar ben y Bil Heddlu sy’n mynd i rwystro ffurf o brotestio, pan rydych chi’n edrych ar y newidiadau maen nhw’n eu gwneud i’r Ddeddf Hawliau Dynol, pan rydych chi edrych ar yr ymosodiadau ar y BBC, mae popeth yn ei gyfanrwydd yn creu sefyllfa beryglus iawn.”

‘Diffyg parch’

Yn ôl Rhys ab Owen, mae’r Blaid Geidwadol yn San Steffan yn dangos “diffyg parch” tuag at y blaid yng Nghymru, ond bod y Ceidwadwyr Cymreig yn dal yn ffyddlon i’w “meistri”.

“O leiaf mae’r Ceidwadwyr yn yr Alban wedi sefyll lan i Boris Johnson, tra bod y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi aros yn hollol dawel ac adrodd y llinellau maen nhw’n eu cael gan eu meistri yn San Steffan, er bod dim syniad gan eu meistri yn y Senedd pwy ydyn nhw na beth yw eu henwau nhw.

“Maen nhw’n cael eu trin gyda diffyg parch ofnadwy gan eu meistri yn San Steffan, ond dal maen nhw’n aros yn dawel.”

‘Pobl Cymru yn gweld trwy’r blaid Geidwadol’

Beth sydd ei angen er mwyn i Blaid Cymru basio’r Ceidwadwyr o ran nifer o seddi yn y Senedd, felly?

“Fe gafodd y Ceidwadwyr fwy o seddi na ni [yn etholiad diwethaf Senedd Cymru], does dim modd osgoi hynny,” meddai.

“Ond dw i’n credu bod pobol Cymru yn gweld trwy’r blaid Geidwadol.

“Maen nhw wedi gweld drwy Boris Johnson a’r cymeriad hoffus mae e’n ceisio portreadu, maen nhw wedi gweld bod y person yma ddim yn ffit y ddal y swydd.

“Maen nhw wedi gweld trwy ddiffyg ymateb y blaid Geidwadol yng Nghymru a’u bod nhw jyst yn dilyn eu meistri yn San Steffan a bod y Ceidwadwyr Cymreig ddim yn gwasanaethu Cymru o gwbl – gwasanaethu San Steffan maen nhw.”

Ydi Rhys ab Owen yn credu y bydd Plaid Cymru yn ennill tir ar y Ceidwadwyr yn yr etholiadau lleol ym mis Mai, felly?

“Dw i’n sicr yn credu y bydd y Ceidwadwyr yn colli seddi yn yr etholiadau lleol,” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn i’r Ceidwadwyr Cymreig am ymateb.