Mae hi’n bosib cwestiynu a yw sefydliadau amaethyddol yn cynrychioli aelodau LHDTC+ eu cymunedau, yn ôl cydlynydd llinell gymorth Ffermwyr Hoyw yng Nghymru.

Gallai’r undebau fod yn fwy “agored” a “blaengar” o ran eu polisïau a’u hagweddau, yn ôl Emlyn Evans.

Mae’n dod o deulu amaethyddol yn Llanybydder, ond mae e bellach yn byw yng Nghaernarfon, ac yn dweud bod agweddau’n “araf iawn” yn newid o fewn y gymdeithas amaethyddol.

Mae’r llinell gymorth yn cynnig cefnogaeth i unigolion mewn ardaloedd gwledig, ac mae Emlyn Evans wedi bod yn gwirfoddoli â’r llinell ers tua wyth mlynedd.

Mae agweddau yn gwella rywfaint, meddai, ac mae’r gymuned amaethyddol yn barod i dderbyn pobol hoyw sy’n dod i mewn i’r gymuned, ond mae nifer o aelodau’r gymuned yn ei chael hi’n anodd dweud eu bod nhw’n hoyw.

‘Araf yn newid’

“Mae’r gymdeithas amaethyddol yn draddodiadol ac yn geidwadol ei natur,” meddai Emlyn Evans wrth golwg360.

“Mae pethau’n cymryd amser i newid o fewn y gymdeithas Gymreig.

“O ran amaeth, araf iawn mae pethau’n newid. Maen nhw’n ddigon parod i dderbyn pobol hoyw sy’n dod i mewn i’r gymuned, ond mae’n hollol wahanol wedyn pan mae gennych chi rywun o fewn eich cymuned eich hun.

“Dw i’n gwybod am bobol sydd yn hoyw yn y gymdeithas ei hun ac yn ofni dod allan.

“Roedd gyda fi un ffarmwr oedd yn adnabod cwpwl hoyw, roedd e’n helpu nhw pan oedd angen trwsio rhywbeth… ond iddo fe gyfaddef iddyn nhw fod e’n hoyw, roedd e’n ormod o gam iddo fe.

“Gyda’r gymdeithas amaethyddol, mae’r ddelwedd gyda chi o ffarmwr yn berson cryf, macho…

“Pan rydyn ni’n sôn yn y cyfryngau, y ddelwedd sy’n boblogaidd yw dyn sy’n ‘ferchetaidd’, camp.

“Dyna yw’r broblem fawr, dyw pobol methu uniaethu â phobol fel yna.

“Mae yna lot o bwysau ar unigolion i conform-io â’r gymdeithas.

“Os fydd yna erthygl yn y Farmers Weekly neu’r Farmers Guardian, chaf i ddim fy synnu, ond mae’n drychinebus weithiau’r math o ymatebion rydych chi’n eu cael ar-lein,” meddai, gan ddweud bod agweddau fel hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i ffermwyr ddweud wrth eu teulu a’u ffrindiau eu bod nhw’n hoyw.

“Pethau reit negyddol, pethau brwnt, pethau anodd iawn. Wrth lwc, dyw’r sefydliad hynny ddim yn derbyn dim byd fel yna.”

Cynrychioli pob aelod

Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cynllun cydraddoldeb LHDTC+ yn gynnar y flwyddyn nesaf er mwyn mynd i’r afael â phrofiadau o anghydraddoldeb o fewn y gymuned.

“Mae Llywodraeth Cymru yn sôn am greu cynllun gweithredu a pholisi am sut maen nhw’n mynd i ddelio ag anghydraddoldeb a gwneud bywyd person hoyw’n llawer haws,” meddai Emlyn Evans.

“Beth fydd yn bwysig wedyn yw y bydd yna ddisgwyl ar sefydliadau cyhoeddus, neu unrhyw sefydliad, a gallech chi gynnwys y ffermwyr ifanc, yr undebau ffermwyr, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n trin ac yn trafod pawb.

“Weithiau gallwch chi ofyn y cwestiwn, ydyn nhw, o ddifrif, yn cynrychioli pob aelod o’u cymuned amaethyddol?”

Drwy gyflogi person LHDTC+ i weithio o fewn y gymuned amaethyddol, byddai’n bosib i fudiadau ac undebau ddangos eu bod nhw’n cymryd y mater “o ddifrif”, meddai.

Mae Emlyn Evans yn credu bod yna le i’r undebau amaethyddol fod yn fwy agored a blaengar eu ffordd hefyd.

“Mae hunanladdiad yn rhywbeth sy’n digwydd, ac yn anffodus mae’r ganran yn reit uchel o ran ffermwyr,” meddai wedyn.

“Dw i ddim yn dweud bod bod yn hoyw’n achosi hynny, ond mae’n gallu bod yn ffactor.

“Mae e’n gallu cyfrannu, fedrwch chi ddim amau hynny.

“Pan rydych chi’n sôn wedyn am ymgyrchoedd wedyn gyda’r undebau, maen nhw i gyd yn sôn am bopeth o ran iechyd meddwl, fel iselder a gorbryder, ond wnawn nhw byth gydnabod y peth o ran efallai bod rhywioldeb hefyd yn gallu bod yn ffactor mewn achosi iselder.”

‘Cydnabod pawb’

Drwy ei waith yn gwirfoddoli â llinell Ffermwyr Hoyw, mae Emlyn Evans yn cynnig clust i wrando ac yn cynnig cyfeillgarwch i alwyr sy’n unig.

“Mae hi’n bwysig bod pawb yn cael eu trin a’u trafod yr un peth, bod yna ddim anghydraddoldeb o gwbl mewn cymdeithas,” meddai.

“Mae hawl gyda phawb i fyw eu bywyd yn y modd maen nhw eisiau, fwy neu lai.

“Yn anffodus, y dyddiau yma, mae yna lot o atgasedd, mae yna lot o bobol yn cael profiad o gael eu bychanu.

“Mae e’n bwysig bod pawb yn cael eu cydnabod am bwy bynnag ydyn nhw.

“I gymdeithas fod yn gymdeithas sy’n blodeuo, mae’n rhaid sicrhau bod pawb yn cael eu cydnabod.

“Mae agweddau yn newid, ond mae yna dal ryw elfen o gymdeithas sydd bob tro’n dangos atgasedd tuag at bobol, sydd yn eu tyb nhw, ddim yn ffitio’u mewn i’w golwg nhw o gymdeithas.”

Cafodd Emlyn Evans ymateb “positif” pan ddywedodd wrth ei deulu a’i ffrindiau ei fod yn hoyw, ac mae’n dweud ei fod yn “ffodus” mai felly fu pethau.

“Dw i ddim isio defnyddio’r gair ymladd, ond mae hi bob tro’n mynd i fod yn anodd gydag unrhyw beth os ydych chi ychydig bach yn ‘wahanol’,” meddai.

“Bydd angen am y llinell, dw i’n teimlo, am byth. Fel yna mae natur cymdeithas.”

Y crefftwr sy’n cynnig clust i wrando

Cadi Dafydd

“Fe gefais i alwad un amser, bachgen ifanc iawn, yn briod, yn deall erbyn hyn bod ganddo fe fwy o ddiddordeb mewn dynion”