Ac yntau yn gydlynydd llinell gymorth i ffermwyr hoyw yng Nghymru, mae Emlyn Evans yn glust i wrando ar aelodau o’r gymuned wledig sydd am fwrw eu bol.

Dechreuodd Emlyn, a gafodd ei fagu yn y wlad yn Llanybydder, wirfoddoli gyda llinell ‘Gay Farmer’ tua wyth mlynedd yn ôl.

Mae yn gyfarwydd â’r heriau sydd ynghlwm â thyfu fyny yn hoyw mewn cymuned wledig, er nad yw yn ffarmwr ei hun.

Ac er ei fod bellach yn byw yng Nghaernarfon, mae’r wlad yn “rhedeg drwy fy ngwythiennau”.