Dyma erthygl am y rhaglen ‘Y Parchedig Emyr Ddrwg’ wnaeth ymddangos yng nghylchgrawn Golwg yn ddiweddar*
Mae rhaglen ddogfen yn gobeithio taflu goleuni newydd ar achos anarferol y Parchedig Emyr Owen, cymeriad dadleuol a ddaeth i’r amlwg yn y 1980au ac sy’n parhau i hollti barn hyd heddiw.
Y cynhyrchydd a’r actor Gwion Tegid sy’n dweud mwy am y rhaglen a pham ei fod yn gobeithio y bydd pobl yn fwy goddefgar tuag at Emyr Owen ar ôl ei gwylio…
“Doedd o ddim yn fwriad ar y dechrau i wneud rhaglen ddogfen fel hyn. Ond ar ôl dod i wybod mwy am Emyr, ei fagwraeth a’i grefydd, a dod i’w nabod o, roedden ni’n fwy sympathetig tuag ato,” esbonia Gwion Tegid, cynhyrchydd y rhaglen ddogfen Y Parchedig Emyr Ddrwg.
Mae’r rhaglen yn dilyn achos y Parchedig Emyr Owen, gweinidog yng Nghapel Bethel yn nhref Tywyn ar arfordir de Gwynedd, a gafodd ei garcharu am bedair blynedd yn 1985 am ddarnio cyrff meirw ac anfon llythyron dienw yn bygwth lladd pobl yng ngogledd Cymru.
Roedd Emyr Owen wedi bod yn torri pidynnau oddi ar gyrff meirw dynion a oedd yn aros i gael eu claddu.
Mae’r rhaglen yn ffrwyth llafur tair blynedd o waith ymchwil a ffilmio gan Gwion a’r gwneuthurwr ffilmiau Rhys Edwards, sy’n gweithio gyda’i gilydd yn y bartneriaeth busnes Docshed yn y Felinheli yng Ngwynedd.
“Mae Rhys a fi wastad yn trafod syniadau efo’n gilydd ac yn mwydro,” eglura Gwion, “a dyma fo’n gofyn: ‘Wyt ti wedi clywed am y boi oedd yn piclo cocia?’
“A wnes i ddweud fy mod i wedi rhyw fath o glywed y stori yn y pyb, ond ddim yn iawn. Ar ôl clywed Rhys yn siarad am y parchedig a’r troseddau anarferol yma, roedd y stori wedi gripio fi. Mae Rhys a fi yn licio edrych ar bethau trwy lygaid modern, a rhoi cyfle i bobl a dod i’w hadnabod nhw, ac roedden ni’n gwybod yn syth ein bod ni am wneud hyn efo’n gilydd.”
‘Agor y drws’
Er bod yr achos wedi denu llawer o sylw ar y pryd, ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael am Emyr Owen ei hun, eglura Gwion.
“Roedd rhaglenni wedi cael eu gwneud yn 1989 a hefyd yn 1991, ond roedd y straeon i gyd am yr achos a’r troseddau a doedd braidd dim byd am Emyr. Beth oedden ni eisiau gwneud oedd dod i nabod Emyr a thrio deall beth oedd wedi arwain at y fath droseddu.”
Dechreuodd y ddau ymchwilio i’r hanes o ddifri gan edrych ar fagwraeth Emyr Owen ym Mlaenau Ffestiniog.
Fe ddaethon nhw ar draws cofnodion y llys a “dyna oedd wedi agor y drws i ni, i gael gweld adroddiadau’r seicolegydd, a gweld pwy oedd Emyr,” esbonia Gwion.
“Roedd ei dad wedi marw mewn tân yn Awstralia pan oedd Emyr yn ifanc iawn, ac roedd ei grefydd Galfinaidd wastad wedi bod yn bwysig iddo, sef y syniad yma o nefoedd ac uffern ac unwaith mae rhywun wedi troseddu does dim modd dod nôl.
“Pan oedd yn gweithio yn chwarel Ffestiniog yn llanc ifanc, dyna pryd wnaeth o ddeall ei fod o’n hoyw, ac roedd o wedi gorfod cwffio hyn drwy ei fywyd. Roedd o wedi gwneud ambell honiad eitha’ mawr am ddefodau ac ati yn y chwarel, lle’r oedden nhw wedi tynnu ei drowsus i lawr a chwerthin arno, ond does dim byd i brofi ei fod o’n deud y gwir a dim byd i brofi fel arall chwaith.
“Roedd o’n coelio bod o’n mynd i uffern. Roedd Emyr yn credu mai’r organ rhyw ddynol sy’n gyfrifol am lawer o bechodau’r byd, a bod mwy o siawns i ddynion fynd i’r nefoedd heb yr organ yma. Efallai roedd o’n meddwl bysa gwneud rhywbeth eithafol fel hyn yn ei helpu fo i fynd i’r nefoedd. Ond nid y ffaith ei fod o’n hoyw oedd wedi gwneud iddo wneud y pethau hyn.”
“Rhaid trafod y pethau yma”
Mae Gwion yn awyddus i bwysleisio nad ydy elfen fwy goddefgar y rhaglen ddogfen yn tynnu oddi ar y troseddau a gyflawnodd Emyr Owen, ac mae’n cydymdeimlo â’r teuluoedd yn Nhywyn sy’n dal i fod yn y tywyllwch o ran a oedd eu perthnasau nhw wedi’u heffeithio gan y troseddau hyn.
“Penderfyniad Heddlu’r Gogledd oedd peidio dweud wrth y teuluoedd,” eglura Gwion.
“Roedd y dystiolaeth i gyd wedi cael ei dinistrio drwy orchymyn y llys er mwyn peidio achosi poen i’r teuluoedd.”
Bron i ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’r creithiau sydd wedi’u gadael ar ôl yn Nhywyn yn parhau, meddai Gwion.
Dim ond un person oedd yn fodlon siarad efo fo ar gyfer y rhaglen.
“Hyd heddiw, pan ti’n cysylltu efo pobl yn Nhywyn, dydyn nhw ddim eisiau siarad am y peth. Roedd rhai wedi galw fi’n bob enw dan haul. Mae’n ddealladwy bod pobl ddim eisiau cael eu holi achos mae’n bwnc mor sensitif. Dw i’n meddwl bysa wedi bod yn well bod Heddlu’r Gogledd wedi dweud wrth y teuluoedd oedd wedi’u heffeithio. Mae wedi gadael fwy o legasi drwy beidio gwneud hynny.”
Gobaith Gwion yw bod y rhaglen yn codi drych ar Gymru, y gymuned a chymdeithas.
Mae yn dweud ei bod yn “bwysig cofio mai’r gymuned gapelog, anoddefgar wnaeth greu’r person oedd wedi gwneud y troseddau hyn. Dydy brwsio fo dan y carped ddim yn mynd i helpu. Mae’n rhaid trafod y pethau yma ac edrych ar y ffeithiau”.
Actio a chyfarwyddo
Bu farw Emyr Owen yn 2001 ar ôl salwch byr a gobaith Gwion yw y bydd gan bobl “agwedd fwy goddefgar at Emyr ar ôl gweld y rhaglen yma”.
Y bwriad yn y pendraw yw rhyddhau ffilm hirach am fywyd Emyr Owen, gan fod cymaint o ddeunydd heb gael ei ddefnyddio yn y rhaglen ddogfen awr o hyd, sy’n cynnwys golygfeydd wedi eu hail-greu, gyda’r actor adnabyddus Eilir Jones yn portreadu’r pregethwr.
Ac mae Gwion Tegid hefyd yn actor wrth gwrs, yn chwarae rhan ‘Barry Hardy’ yn y gyfres Rownd a Rownd ers blynyddoedd.
“Mae actio a chyfarwyddo mor wahanol,” meddai.
“Pan dw i’n actio dw i’n dilyn sgript ac yn cyfleu rhywbeth mae rhywun arall yn feddwl.
“Ond pan dw i’n cyfarwyddo dw i’n gallu rhoi ychydig bach o fi fy hun ynddo fo, ac er bo ni’n trio bod yn ddiduedd pan mae’n dod at ddewis darnau o gyfweliadau, chwaeth fi a Rhys [Edwards] ydy o.
“Mae Rhys yn brofiadol dros ben. Fo sydd wedi cyfarwyddo, golygu a gwneud y gwaith camera ar gyfer y rhaglen, ac mae ei steil o ffilmio a chyfarwyddo yn wych. Pan ti’n gweithio efo rhywun mor dalentog â Rhys, mae jest cael helpu fo i gyrraedd y ffordd orau o ddweud stori yn grêt.”
Roedd Y Parchedig Emyr Ddrwg ar S4C nos Fercher, 2 Chwefror, am naw